LlGC Llsgr. Peniarth 32 (Y Llyfr Teg) – tudalen 105
Llyfr Iorwerth
105
M Erch gỽedy bedydyer yny vo seith mlỽyd
ny dyly mynet yn ỻỽ. O|r pan anher hitheu
yny vo deudeg|mlỽyd y dyly vot ỽrth noe y that.
O|e deudeg|mlỽyd aỻan y dyly dyuot bronneu a
chedor arnei. ac y dyly blodeuaỽ. ac yna y byd
oet idi y rodi y ỽr. ac o hynny aỻan kyn·ny chaf+
fo hi wr; hi a|dyly medu yr|eidi. ac ny dyly vot
ỽrth noe y that o·nyt hi e|hun a|e mynn. ac ny
dyly tat talu amobyr dros y verch o·nyt e|hun
a vyd rodyaỽdyr arnei. kanys pob rodyaỽdyr
a vo ar wreic a|dyly talu y hamobyr o·ny chym+
er veicheu ar y dalu y gan y neb y roder idaỽ.
O|deruyd dỽyn gỽreic lathlut o ty y that hyt
yn ty araỻ. ac yna kysgu genthi; gỽr y ty hỽnnỽ
a|dyly talu y hamobyr. ony chymer mach ar+
naỽ y gan y gỽr a|e duc lathlut. Yn|y deudeg mlỽ+
yd y dyly gỽreic vlodeuaỽ yny megys y dywet+
pỽyt uchot. ac o|e deudeg|mlỽyd hyt y phedeir|blỽ+
yd ar|dec y|dyly vot heb veichogi. ac o|e phedeir
blỽyd ar|dec yny vo deugein|mlỽyd y dyly ym+
dỽyn. ac o hynny aỻan nyt a galanas arnei.
na ỻỽ na bo plant idi. kanys diheu yỽ na byd idi.
P ỽy bynnac a vynno diwat mab yn gyfrei+
thaỽl; nyt reit idaỽ y wadu. yny dycker
idaỽ yn|gyfreithaỽl gysseuin. kannyt reit y
neb atteb y anolo. kanys anolo yỽ pob peth ny|bo
kyfreithaỽl.
« p 104 | p 106 » |