LlGC Llsgr. Peniarth 32 (Y Llyfr Teg) – tudalen 141
Llyfr Iorwerth
141
Ony deuant y kynydyon drannoeth. defnydy+
et ef y kic. a chatwet y croen a|r hydgyỻen y|r
kynydyon. O|r deuant ỽynteu kynn defnydyaỽ
y kic; rodher chỽarthaỽr y berchennaỽc y tir.
Y chỽarthaỽr dilỽr y bop perchen penhegen.
a|r chỽarthaỽr rac o bop perchen kyỻa. O|deruyd
goỻỽg ar hyd a|e lad. pỽy bynnac bieiffo y kỽn;
perchennaỽc y tir a geiff y chỽarthaỽr dilỽr.
O|deruyd y dyn kaffel ỻỽdyn glan yn varỽ ar
dir dyn araỻ; ef a|dyly chỽarthaỽr. a|r neb
pieiffo y tir a|e keiff oỻ namyn hynny. Pỽy
bynhac a gaffo ỻỽdyn budyr yn varỽ ar tir
dyn araỻ; keinhaỽc a|dyly. a|r ỻỽdyn y|r neb
pieiffo y tir. Ac ny cheffir namyn o|r man
aniueileit gỽyỻt hynny. Pỽy bynnac a
gaffo bydaf; keinhaỽc a|dyly ef neu y kỽyr.
a|r vydaf y|r neb pieiffo y tir. Pỽy bynnac a
dynno annel ar tir dyn araỻ heb y ganhat;
talet pedeir keinhaỽc kyfreith. am agori daear. a|r
annel ac a uo yndi. a chamlỽrỽ y|r brenhin.
Vn werth yỽ Jỽrch. a bỽch. a Jyrcheỻ. a gafyr.
a Jyrchwyn. a Mynn. Croen ych; deudec ke+
inhaỽc a|dal. Croen hyd deudec keinhaỽc.
Croen buch; Seith keinhawc. Croen ewic; seith keinhawc.
Croen dauat; keinhaỽc. Croen gafyr; keinhawc.
Croen Jỽrch; keinhawc. Croen ỻỽynaỽc; wyth keinhawc.
« p 140 | p 142 » |