LlGC Llsgr. Peniarth 45 – tudalen 264
Brut y Brenhinoedd
264
da ereill a tremygassei aỽstin y saesson a|e
pregeth. Ac gỽedy kynnullaỽ diruaỽr
lu o·nadunt. Dyuot a|wnaethant hyt yg
kaer lleon y lle yd oed brochuael ysgithraỽc
yn eu herbyn. Ac yr dothoed myneich o bob
manachloc ac yn uỽyhaf o uangor y wedi+
aỽ y gyt a|e pobyl. Ac gỽedy eu dyuot y gyt
dechreu ymlad a oruc y bryttanneit ar saesson. ~
Ac o|r diwed y bu reit y brochuael adaỽ y dinas
trỽy wneuthur diruaỽr aerua o|e elynyon. Ac
gỽedy gỽybot o edelflet yr achos yr dothoed y
saỽl credyuur hỽnnỽ yno. ymchoelut eu har+
ueu yn|y credyfwyr. Ac yn|yr un dyd hỽnnỽ
gan uerthyrolyaeth yd|ellygỽyt y wlat nef
Deu canỽr a mil o|r myneich hynny. Ac mal
yd oed y saesson yn kyrchu dinas bangor. Ac gỽe+
dy clybot o|r bryttanneit eu creulonder. yna y do+
eth Bledris tywyssaỽc kernyỽ. A maredud urenin
dyuet. Catuan urenin. gỽyned. Mab oed hỽn+
nỽ y Jago. mab Beli. mab. einaỽn. mab maelgỽn
gỽyned. Ac gỽedy dechreu y urỽydyr. Drut a|cha+
let uu yr aerua o bob parth a thrỽy rat duỽ y
goruu y brytanneit. Ac y brathỽyt edelflet
a|e gymhell ar fo ef a|e lu. Sef eiryf a las o lu
Edelflet. Chwe gwyr a|thrugeint a deng mil.
« p 263 | p 265 » |