Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 119 (Llyfr Ancr Llanddewi Brefi) – tudalen 13r
Ystoria Lucidar
13r
yng|kylch deg|mlwyd a|deugeint yn|y|hol wyntev.
Ac yn|y diwed y|gwneynt baỽp yn gyffelyp yr
egylyonn. A oedynt noethon wynt yna. Oed+
dynt. Ac nyt oed voe y kewilyd o|e haelodeu
kudyedic. noc o|e llygeit. Paham y dywedir.
gỽedy y pechaỽt wynt a|wyelssant y|bot yn
noethon. yr hynn ny welsynt kynn o hynny.
Gỽedy pechv onadunt yd ymlosgassant pob vn
o chwant y|gilyd. Ac yn|yr aelaỽt hỽnnw y de+
chreuawd. A gỽedy hynny y|terueysc hỽnnw
a|gerdawd ym|plith dynyaỽl etiued. Paham
y|bv yn|yr aelaỽt hỽnnw mwy noc yn|yr rei e+
reill. Y|wybot o|r|holl etiued y bot yn argywedus
o|r vn ryw gared. A welssant wy duỽ ym|para+
dỽys. Gwelssant drỽy ymrithyaỽ ohonaỽ yn
ffuryf arall. megys y gwelas evream. a|loth.
Ar proffwydi ereill. Paham y|twyllaỽd y kythre+
ul wynt. O achos kennvigen. kannys kynng+
horvynt uu gantav dyvot dyn ar yr enryded
y|dygwydaỽd ef ohonaỽ drỽy valchder. Drỽy
ba fford y|kauas ef y broui. Drwy syberỽyt.
kanys dyn a|vynnaỽd y|vot yn|y briaỽt vedyant
e|hun. A|dyỽedut val|hynn yn|y amylder. Nym
kyffroir. i. vyth. Paham y|gadaỽd duỽ y|broui
ef. Ac yntev yn|gwybot y|goruydit arnnaỽ.
« p 12v | p 13v » |