Llsgr. Caerdydd 1.363 (Hafod 2) – tudalen 91r
Brut y Brenhinoedd
91r
en dyffeyth hayach hyt pan edynt o kenedloed
hep kaffael bwyt hayach eythyr kelvydyt hely
ac e velly emborth ar ryt anyveylyeyt a gwyd+
vylet. Ac ny bv a alley gwrthwynebv y dym
o henny. kany bv vn kyvoethavc nac vn emlad+
wr da oc en kenedyl ny yr henny hyt hedyw.
kanys er rvueynwyr er ry deryw vdvnt blynav
rac henny ac en hollavl emadav a ny hep kaffael
vn kanwrthwy nac amdyffyn y ganthvnt pellach
en erbyn e gormessoed henny. Ac wrth henny en es+
peylyedyc o holl kanhwrthwy a gobeyth y gan
nep arall en e byt e kyrchassant nynhev ar de trỽ+
gared ty y adolwyn kanhwrthwy a nerth y amdyf+
fyn e teyrnas esyd dyledvs yt y amdyffyn. kanys
pwy arall a dylyey o|th anvod ty kaffael coron cv+
stennyn a maxen kanys er rey henny a vuant
hentadeỽ a gorhentadev y ty. ac|a|vuant arder+
chaỽc o coron enys prydeyn. Ac wrth henny parota
de lynghes a debre y gyt a my a my ar rodaf enys
prydeyn y|th dwy law ty. Ac|ena aldwur a dywaỽt
wrthav enteỽ. Dyoer ep ef. ef a ỽu amser na wrtho+
dvn ny enys prydeyn o bey a|e rodey ymy. kanys ny
thebygaf y o|r gwladoed gwlat ffrwythlonach no
« p 90v | p 91v » |