LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 159v
Brenhinoedd y Saeson
159v
rac kaffel etived o·honaw canys ef oed wir etived
ar caerllion. Ac yn dissyvyt y doeth y freinc ac alltu+
daw Jorwerth a howel y vab odeno. Ac y tagnavedwyt rwg
henri vrenhin lloegyr a henri ieuanc y vab gwedy
distrywiaw llawer o Normandi a gwladoed ereill.
Ac y delhijs dauid ap Owein. Rodri y vraut dro dwill
ac a|y dodas mewn carchar kyfync a gevynne arnav.
am geisiaw ran o dref y dat i ganthaw. Ac yna y ky+
myrth ddauid ap Owein Emme chwaer yr brenhin yn bri+
awt o dybygu caffel am hynny kynnal y gyvoeth yn
hedwch. Ac yn hynny y dienghys Rodri o garchar
y vrawt. a chyn diwed y vlwydyn ef a duc Mon i arnav
a Gwyned Ewch Conwy. Duw gwyl Jago apostol yd
aeth Rys ap Grufud y Gaerlow yr kwnsyli a holl ty+
wyssogeon kymre gyt ac ef o|r a uuassei yn erbyn
y brenhin. nyt amgen. Catwallawn ap Madoc y gevyn+
derw o vaelenyd. Eynion Clut y daw gan y verch o El+
vayl. Eynion ap Rys y dav gan y verch o Gwerthryn+
nyon. Morgant y nei ap Gwladus y chwaer. tat Cara+
dauc ap Jestin o wlat vorgant. Grufud y nei vap Nest
y chwaer braut Juor vachan ap Meuric o Seinhenyd.
Jorwerth ap Owein o Gaerllion. a Seissyll ap Dyvynwal o
went ewchaf a briodassei Gwladus chwayr y Rys ap
Grufud. A gwedy ev dyvot yno y brenhin a rodes hed+
dwch ydunt. ac a rodes Caerllion y Jorwerth ap Owein. Ac y
llas Seissill ap dyvynwal o dwill yn Gastell abergeven+
ni y gan arglwyd brecheynavc. Ac y llas Geffrei y vab a
goreugwyr gwent. a gwladus y wreic a dalpwyt. a chatwa+
ladyr y mab a las. A gwedyr lladua mor|druan a honno
ny allawd kymro ymdiriet y dwyll y freinc o hynny all+
an. Cadell vab Grufud o orthrwm heint gwedy kymryt
habit crevyd amdanaw yn ystrat flur y bu varw ac yno y
clathpwyt. A Richard abat clerval mewn manachloc yn
« p 159r | p 160r » |