LlGC Llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth) – tudalen 66v
Buchedd Dewi
66v
amgen dodi gỽenỽyn y|myỽn bara. a|r bara hỽnnỽ a rodir i+
daỽ ef avory o|e vỽyta. ỽrth hynny anuon gennat hyt att dy
athro. ac arch idaỽ ymoglyt y bara a|r gỽenỽyn yndaỽ. Sef
a|oruc y sant. tristau ac ỽylaỽ. arglỽyd heb ef pa|delỽ yd an+
uonaf|i gennat yno mor vyr yỽ yr|oet. Ac nyt oes long yn
baraỽt ual y gaỻer y chaffel. Anuon heb yr angel dy gyt·dis+
gybyl nyt amgen scuthyn. hyt y traeth. a mi a|baraf idaỽ
vynet drỽod. Sef a|oruc scuthyn yn ỻawen. gỽneuthur yr
hynn yr|oedit yn|y erchi idaỽ a|dyuot y tu a|r|traeth. a cher+
det yn|y dỽfyr racdaỽ. yny doeth y dỽfyr idaỽ hyt y linyeu.
ac yn|deissyfyt ỻyma anghenuil o|r mor yn|y gymryt ar y ge+
vyn. ac yn mynet ac ef drỽod yny yttoed ar y tir araỻ. Ac er+
byn hanner dyd duỽ pasc yr oed ef gyt a|e athro. ac ual yr
oed dewi yn|dyuot o|r eglỽys gỽedy offerenneu. a|gỽedy prege+
thu y hoỻ vrodyr. nachaf y gỽelei ef y gennat yn kyfaruot
ac ef yn|y ỻe a|elwir bed yscolan. Sef a|oruc dewi yna bot yn
ỻawen ỽrthaỽ a mynet dỽylaỽ mynỽgyl idaỽ. ac am·ovyn ac
ef am ansaỽd aedan sant y disgybyl. a maỽr y karei dewi y
disgybyl. A gỽedy daruot y|r gennat menegi idaỽ ef o gỽbyl
ansaỽd y disgybyl. galỽ a|oruc scuthyn dewi attaỽ ar neiỻtu
a|datkanu idaỽ y gennadỽri. a|r mod y dywedassei yr angel
ỽrth aedan sant. Sef a|oruc dewi yna kynhewi a medylyaỽ.
a dywedut diolỽch maỽr y duỽ. a|dyuot racdaỽ y|r uanachla+
ỽc. A gỽedy eisted o baỽp yn|y mod y dylyynt gỽedy dywedut
y gras. kyuodi a|oruc y diagon a wassanaethei ar dauyd y
wassanaethu a|r bara gỽenỽynic ganthaỽ. Sef a|oruc scuth+
yn yna kyuodi y vyny a|dywedut. Tydi heb ef ny wassaneythy
di hediỽ. ~ ~
« p 66r | p 67r » |