LlGC Llsgr. 3036 (Mostyn 117) – tudalen 129
Brut y Brenhinoedd
129
hen·gyst hyt yn germania. Ac y doethant odyno
offa ac ossa a|cheldric a|thrychant llog gantunt
yn llaỽn o varchogyon aruaỽc. A hynny oll a ar+
olles Gỽrtheyrn yn llawen. Ac a|urdỽys paỽb o+
nadunt yn|y lle o rodyon maỽrweirthaỽc. kanys
ym pop kyfranc y bydei Goruydaỽdyr trỽydunt.
Ac yuelly beunyd eissoes yd achwanegei hengyst
y lu trỽy tỽyll a brat ganedic gantaỽ. A guedy ad+
nabot o|r brytanyeit hynny. dala ofyn a|wnaeth+
ant. Ac erchi y|r brenhin eu gyrru o teyrnas ynys
prydein. kany wedei y|gristonogyon ketymdeith+
occau a phaganyeit nac ymgymyscu ac ỽynt.
kanys kyfreith a dedyf gristonogaeth a|e guaha+
nei. Ac ygyt a|hynny kymeint oed eu nifer ac nat
oed haỽd adnabot pỽy a|uei gristyaỽn pỽy a uei
pagan. Ac ygyt a hynny Seint Garmon escob a or+
chymynnassei udunt dehol y paganyeit saesson
oc eu plith. Ac eissoes sef a|wnaeth Gỽrtheyrn o
garyat y wreic a|r saesson yscaelussaỽ y brytanyeit.
A guedy guelet o|r brytanyeit hynny. Sef a wna+
ethant ymadaỽ a Gỽrtheyrn. A chymryt Guerthe+
uyr vendigeit y vab ynteu a|e vrdaỽ yn vrenhin
arnadunt. A dechreu ymlad a|r saesson. A gỽneu*+
ur aeruaeu maỽr creulaỽn onadunt megys yd
oed da gan duỽ y wneuthur onadunt. A phedeir
brỽydyr a uu y·rỽg guertheuyr ar saesson. Ac ym
pop vn y|goruu ef trỽy nerth duỽ. Yr ymlad kyn+
« p 128 | p 130 » |