Llsgr. Bodorgan – tudalen 82
Llyfr Cyfnerth
82
gyt ac ỽynt yr y vychanet. onyt mab kefyn
vyd; ny chollant dim o|e iaỽn. Gỽreic a el
yn llathrut gan ỽr a|e hatal o|r gỽr hi gantaỽ
hyt ym|pen y seithuetdyd heb wneuth* iaỽn
idi. ny dyly ef wneuthur iaỽn idi hyt ym
pen vn dyd a blỽydyn. yna hagen y dyly hi
cỽbyl iaỽn y gantaỽ. Gỽreic a el yn llathrut
gan ỽr yn| y haeduetrỽyd. ae dỽyn o|r gỽr hi y
y lỽyn neu y perth neu y ty. Ae hymrein. Ae
gollỽg o|r gỽr trachefyn. A chỽynaỽ oheni hith+
eu ỽrth y chenedyl ac yn| y dadleu. Sef a dyly hi
yn| y diweirdeb. kymryt tarỽ tri gayaf ac ei+
llaỽ y loscỽrn ae iraỽ a gỽer. Ac odyna gryny+
aỽ y loscỽrn trỽy dorglỽyt. Ac odyna mynet
y wreic y myỽn y ty. A dodet y throet ỽrth y tro+
theu. A chymeret loscỽrn y tarỽ yn| y dỽy laỽ.
A doet gỽr o pop parth yr tarỽ ac erchi yn llaỽ
pop vn ohonunt y gymhell y tarỽ. Ac o|r dich+
aỽn hi y attal; kymeret yn| y diweirdeb. Ac onys
dichaỽn; kymeret a lynho o|r gỽer ỽrth y dỽy
laỽ. Gỽreic a ymrotho e| hunan yn llỽyn ac ym+
perth y ỽr. ae hadaỽ o|r gỽr a gorderchu arall.
Ae dyuot hitheu yg cỽyn at y chenedyl ac yr
dadleu. os gỽadu a wna y gỽr. rodet y lỽ ygloch
« p 81 | p 83 » |