LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 120v
Brenhinoedd y Saeson
120v
redus braut edward yn vrenhin ar loegyr.
Ac yn|y vlwydyn honno y dalpwyt Jago y
gan wyr howel vab Jeuaf. ac ef a wledych+
ws kyuoeth iago. Anno domini.ixclxxix. y llas
Jdwal. a gwedy hynny y diffeithwyt llyn a mon
y gan Custennyn vab Jago. a Gotfrit vab
Harald. a gwedy hynny ychydic y llas Custen+
nyn y gan howel vab Jeuaf yn|y vrwydyr
a elwyt Gweith hirbaruch. Anno domini.ixc.
lxxx.y kymyrth Elfride mam edelredus vren+
hin goueilieint yndi am ry lad etward
vrenhin drwy y thwyl hi; a ry varw adelwo+
ld y gwr priaut o lit wrthi. ac yna y perys
hitheu gwneithur manachloc yn ware+
welle. ac yna y treulaud y buched drwy dir+
vaur benyt. Ac yna y gwreickaws edelre+
dus vrenhyn ac a gymyrth Emme verch Ri+
chart. vab Richart. vab Willam. vab Ro+
lond. y gwr a oed yn medu yna Norman+
di. Ac o·honei y cauas deu vab nyt amgen
noc Elvred. ac Edward. Anno domini.ixclxxxi. y
diffeithwyt. dyvet. a myniw. a llangweithenauc.
y gan wyr Gotfrit vab harald. Anno domini.ixc.
lxxxij.y diffeithwyt Brecheinyauc. a holl kyuoeth
Eynion vab Oweyn y gan saesson y duc Alfred.
a howel vab ieuaf. ac Eynion a ladawt llawer
onadunt. Anno domini.ixclxxxiij. y llas Eynion vab
Oweyn y gan y gwyr goreu o went. Anno domini.
ixclxxxiiij.y llas howel vab Jeuaf y gan y saesson.
« p 120r | p 121r » |