LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 43r
Ystoriau Saint Greal
43r
wit arnat mi a|th gymeraf megys y neb a|uei yn vy|medyant j
yn|gynt noc araỻ. Ac yna|debygei ef yd aeth honno ymeith. ac yn+
teu a|gysgaỽd megys gỽr ỻudedic hyt pan ymdangosses yr he+
ul drannoeth. ac yna ef a|gyfodes y vyny ac a|ymgroesses. ac
a|wediaỽd y|r arglỽyd o|r nef. ar danuon kynghor idaỽ a vei da y|r
eneit. kanys am y korff nys didorei ef. Ac yna ef a|edrychaỽd
yn|y gylch. ac ny welei na|r|sarff a|ladyssei na|r ỻeỽ. a|hynny a|vu
ryued iaỽn ganthaỽ ef. Ac yna ef a|arganuv yn dyuot ar|draỽs
y mor ỻestyr a hỽyl arnaỽ. a|r gỽynt yn|y ol yn|y yrru yn vuan
tu ac attaỽ. Ac ynteu pan weles hynny digrif vu ganthaỽ o dy+
byeit bot dynyon yndaỽ ac ef a|gyrchaỽd y traeth. ac a|disgynna+
ỽd y|waeret. a|phan|doeth ef yno ef a|weles vot yr ysgraf gỽedy y
phebyỻu o|samit gỽynn. ac yndi ef a|welei gỽr oedaỽc tec. a|sỽr+
plis ymdanaỽ. ac a|diwyc offeiryat arnaỽ. a choron am y benn
o samit gỽynn. ac enỽ iessu grist yn|ysgriuennedic yndi. Ac y+
na peredur a gyvarchaỽd gỽeỻ idaỽ. Duỽ a ymendao dy gyf+
lỽr ditheu unbenn heb y|gỽr o|r yscraff. A|pha|vn ỽyt ti arglỽyd
heb·y|peredur. Mi a|hanwyf heb ynteu o lys arthur. a|pha ryỽ
antur a|th|duc ditheu yma heb ef. Nys|gỽnn arglwyd heb·y
peredur. na pha antur na pha|gyflỽr y|deuthum j yma. Beth a
vynnut ti heb yr offeiryat pei as|kaffut. Arglỽyd heb ynteu mi
a vynnỽn pei as|caffỽn vynet o|r ynys honn. att vy mrodur a|m
kedymdeithyon o|r vort gronn y geissyaỽ y greal. canys y ge+
issyaỽ amgen neges ny deuthum J o|lys arthur. Pan rang+
ho bod y|duỽ heb yr|offeiryat ti a|geffy vynet odyma. a|phei
gỽeỻ ganthaỽ ef dy vot ti yn ỻe araỻ noc yma ti a vydut.
« p 42v | p 43v » |