LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 22r
Buchedd Catrin
22r
goruot ar y vorỽyn. A| r athraỽon oll a doethant yno. A maxen a dyỽat vrthunt mal yd oed vorỽ+
yn ffol a elỽit katrin. ny chretei o| e duỽ ef. ac o| r gorgelluch heb ef y goruot hy. Mi a rodaf
yỽch digaun o eur ac aryant. A| r athraỽon kyntaf a doeth yno a dyỽat heb ohir ỽrth y
vorỽyn duỽ. ti a dyly dechreu heb ef. canys o| th achaus dy y doetham ny yma. ac y caỽssam
ny lauur maur. yn gyntaf y dyly dy dangos dy synnỽyr di. Ac odyna y gouynny dy yn
sỽynnwyr ny. Y vorỽyn dan owenu a dyỽat yna. yn wir y dyỽettaf. i. bychan y clotuor+
haf. i. ych synnỽyr chỽi. a bychan y clotuoraf. i. chỽi canyt atwennỽch chỽi vy duỽ. i.
Canys dylyaf i dywedut ohonaỽ ef. gỽrthodỽch chỽi ych keluydyt euawc yrdaw ef.
Merch tec heb yr athro. y boe y credy di. a ffaham y gỽrthody di yn dỽyỽeu ny. Attep
ym heb ohir. Mi a gredaf heb·yr hy. y vab meir a anet o| r ỽyry lan. heb pechaut
a heb ffolinep. a heb gymysc drỽc yndaỽ. ac a diodeuaỽd agheu katarnn dros yn pech+
odeu ny. a thrỽydaỽ ef y| n rydhaỽyt ny o bechodeu vffernn. ac o| e ffoeneu. ac y do+
wyn y| r llewenyd brenhinyaul. yr hỽnn ny deruyd byth. Eyna y dyỽat yr athro. Yn
aỽr y gỽelaf heb ef ffolinep. kymryt o iessu knaỽt dyn heb pechaut. a heb fflinep.
yn erbyn dylyet yỽ hynny. bot mab yr wyry. ny aalley hynny vyth vot. gaffel ca+
ffael heb pechaut. Kelỽyd a dyỽedy heb y vorỽynn. canys o| r mab hỽnnỽ y dyỽedy di.
Bychan iawn yỽ dy synnỽyr di. Jessu a doeth o| r yspryt glan. ny wnaeth duỽ ednediccy+
aeth o ỽeir y ganet. Jessu a doeth attey drỽy yr yspryt glan. megys y mae yscriuennedic
yn y gret. A hỽnnỽ yssyd holl alluaỽc. ac nyt oes dim yn y erbyn ef a allo bot a phob
peth a ỽnaeth ef heb dim diỽed. Pam na alley ef wneuthur vn peth. canyt oes dim
a allo bot yn y erbyn ef. paham na alley eni o| r wyry. attep ym bellach athro kelỽydauc.
Hỽnnỽ a attepaỽt drỽy lyt maur. ac o vreid y gallei ef dyỽedut rac llit. Ac yna y dy+
ỽat ef. Mi a brofaf y| th attep di nat o wironed y mae dy duỽ dy megys y dyỽedy. duỽ y+
ssy dyn. ac yssyd vap. pa delỽ y digaun mab duỽ varỽ. na godef agheu marỽaul. ny di+
gaun ef varỽ gan Jaun. canyt oes agheu yn y anyan ef. os marỽ vyd dyn ny digaun
ef godef agheu megys duỽ. na dyuot yn vyỽ guedy y bei varỽ. pa dylỽ y digaun
goruot agheu os duỽ a vu varỽ. gan gam yn erbyn anyan yd ỽyt yn dyỽedut ac
yn erbyn dylyet. Duỽ neu dyn a digaun bot. Reit yỽ y vot ef ae yn duỽ. ae yn dyn. Hyn
ny digaun vot namyn yn vn. pan teruynnaỽe ef y amadraỽt. Hitheu a| e hattebaỽd
mal morỽyn doeth. yn erbyn y wironed y mae dy amadraud di heb hi. ỽrth na mynny cre+
du. Ny cretty di vot yn ỽir a dywedaf i. bot iessu yn duỽ ac yn dyn. O| r mynny di wybot
y wironed. guaret y syberỽyt yssyd y| th gallon. Kanyt oes wironed gyt a thi. dyret y
yn disgybyl ymi. A mi a baraf yt ỽybot y ỽironed. Yna y dyỽat ynteu. Mi a gredaf
heb ef y| r yspryt glan. ac y| r mab. ac y duỽ hollgyuoethauc. ac a ỽrthottaf vaxen dru+
an. a| r athraon ereill a gredassant vegys hynny. A maxen heb ohir a beris llosgi
yr athraon. Eissoes duỽ a dangosses y trugared ef. ny medaud dim o| r tan arnunt
nac ar eu dillat. yr egylyon heb ohir a doethant yno. ac a ducassant eu heneitieu rac
bronn duỽ. ac yno y dotet coron am penn pob vn ohonunt. Ac yna y dyỽat maxen ỽrth katrin.
A vorwyn tec. heb ef. cret ti etỽa y| m kyureith. i. a mi a| th gymeraf yn ỽreic ymi. a mi a v+
yd brenhin. a thitheu yn vrenhines. A mi a baraf ỽneuthur delu yn y tref a elwir alexandria o
eur oll yn gyffelyp a duỽ. a phỽy bynnac a el fford yno ỽynt a ỽuudhant ety ar tal eu
glinyeu. ac val hynny y| th enrydedir di. Yna yd attebaud y vendigeit. Maxen. heb h.
yd wyt yn ynvydu. Yr arglỽyd a garaf i. ny pheittyaf a| e gareat ef er dym bydaỽl. gor+
ỽac oll yỽ yr hynn a dyỽedy. ymadaw ohonaf i a| m harglỽyd. yr hỽnn yssy greaỽdyr
nef a daear y| r gỽr drỽc ysgymun. Teilỽg oedỽnn. i. y| m lluscaỽ ỽrth vyg krogi pei
gỽnelhỽn hynny. Yna y llittyaud maxen yn vaur. ac y gelỽIs attaỽ rei o| e wassan+
aethỽyr. a dyỽedut ỽrthynt. Heb ohir kymerỽch yr ynvyt honn a dodyỽch hi
ỽrth brenn yn rỽym. a meydỽch hi a gỽyeil hyt ban debyccoch chỽI y marỽ. a| r
gỽyr drỽc hynny a| e maedaỽd hi yny redaỽt y gỽaet allan o| e chorff. ym pob lle.
« p 21v | p 22v » |