LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 95r
Brut y Brenhinoedd
95r
hynny o hvmyr hwnt. a swyd geint. Ac yna y|daeth
selix y tu a germania ac a doeth yn|y lle drachevyn.
a seith cant llong ganthaw yn llawn o baganyeit
aruawc. Ac nev yr daroed y vedrawt yr ennyt hwn+
nw ymgedymeithiaw ar ffichtieit ac ar ysgottieit
ac ar gwydyl. ac a phob ryw genedyl o|r a wyppei vot
yn gas ganthunt arthur. yny gavas yn vn ac ef
petwar vgeint mil. A dyuot a hynny o niver ganthaw
hyt ym|phorth hamont y geissiaw lludyas arthur
yr tir. Ac yna y llas llawer o bop tu ac yn enwedic
yna y llas arawn vab kynvarch a gwalchmei nei
y arthur. Ac yn lle arawn y rodet vrien vab kyn+
varch yn vrenhin. A thrwy llauur mawr a cholli lla+
wer o wyr y doeth arthur yr tir o anvod medrawt.
Ac yn diannot kymell medrawt a|y lu ar fo a gwas+
garu y wyr ac ev llad yny doeth y nos. A gwedy dy+
uot nos ymoralw a oruc medrawt ar y wyr; ac|ym+
gynvllaw y·gyt a orugant a|mynet hyt yng|kaer
wynt. a chadarnhau y dinas arnadunt. Pan we+
les gwenhwyuar hynny ffo a oruc hithev o gaer ef+
rawc hyt yng|kaer llion ar wysc. Ac yn eglwys Ju+
lius verthyr y gwisgawd yn vn grefyd ar manach+
esseu a oed yno yn aros ev hangev. Pan gigleu
arthur hynny mwihau y lit a oruc am na chaus+
sei dial y lit ar vedrawt ysgymvn dwyllwr. Ac
ym|phen y trydyd dyd gwedy daruot ydaw peri
cladu y wyr y doeth arthur hyt y|nghaer wynt.
Sef a oruc medrawt pan welas arthur a|y lu yn
dyuot; mynet allan o|r dinas y rodi cat ar vaes y
« p 94v | p 95v » |