Llsgr. Caerdydd 1.362 (Hafod 1) – tudalen 108r
Ystoria Dared
108r
a|wnathoedit ac ef yggroec. Ac yna Priaf a ouynnaỽd pỽy
na raghei y vod y ymlad a Gwyr Groec Ac yna Pardius
gall a uenegys y Priaf ac yr Gwyr nessaf ida* yr hynn a|glyỽs+
sei ef gan efebus y dat O|r dyckei Alexander wreic o roec y by+
dei vchaf dyd hỽnnỽ ar droea. Ac ỽrth hynny bot yn degach
vdunt|hỽy dỽyn y buched yn dagnouedus. noc ymdangos
ymperigyl a cholli eu ryddit drỽy deruysc. Ac yna tremygu
a wnaeth y bobyl aỽdurdaỽt Pardius a gouyn yr bren+
hin beth a uynhei ef y wneuthur. A phriaf a|dywaỽt y mynhei
ef darparu llynges y vynet y roec. Ac na bedei ar·nunt|hỽy
eisseu kyfreideu y gwnelhynt y llongeu na dim ar a|uei
reit yn ymladeu ỽrthynt a hyt pan vuydheit y gemynedi+
weu y brenhin Priaf a diolches yn vaỽr vdunt. A gollỽng
y gynulleitua y ymdeith a|wnaeth ef ac annoc mynet hyt
yn fforest a elwit ida. y dorri defnydeu y wneuthur y llongeu
yn gyntaf ac y gellit. Ac ef a anuones Ector y vab y dro+
ea ym pob lle y gyweiryaỽ llu a hynny a vu baraỽt Ac
yna Cassandra verch briaf gỽedy clybot y that a dechrewis
dywedut yr hynn a deuei rac llaỽ y wyr troea. Os priaf
a ymgadarnhaei yn|y darpar Ac anuon llynges y roec. Ac
yn hynny yr amser a doeth a pharaỽt vu y llongeu. A dy+
uot y gyt a wnaeth y marchogyon a|etholassei Alexander
a Deiphebus ymphoenia. a phan welsant ỽy y llu yn mor+
dỽyaỽ. Priaf a|ymadrodes ar llu. Ac a ossodes Alexander yn
dywyssaỽc arnunt. Ac a anuones y gyt ac ef Deiphebus ac
Eneas a Pholidamantem. Ac ef a orchymynỽys y Alexander
vynet yn gyntaf yr wlat a elwit liuconia. Ac val y delhei
y ysporta at Gastor a Pholux. erchi vdunt|hỽy eturyt Eso
niam a gwneuthur iaỽn y wyr troea. Ac os gomedynt|hỽy
« p 107v | p 108v » |