LlGC Llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth) – tudalen 70v
Buchedd Dewi
70v
a|r penytwyr. y gỽeissyon ieueingk a|r morynyon. y meibyon
a|r merchet a|r rei newyd|eni ar eu bronneu yn goỻỽng
eu dagreu. beth a|draethaf|i onyt un kỽyn gan baỽp. Y bren+
hined yn kỽynaỽ eu braỽt. Yr hyneif yn|kỽynaỽ eu mab.
Y meibyon yn|kỽynaỽ eu tat. Duỽ sul y kanaỽd dewi
offeren. ac y pregethaỽd y|r bobyl. a|e gyfryỽ kynnoc ef
ny chlyỽspỽyt. a|gỽedy ef ny chlywir vyth. Ny|s gỽeles
dyn eiryoet y saỽl dynyon yn un ỻe. A gỽedy daruot y
bregeth a|r offeren. y rodes dewi y uendith yn gyffredin
y baỽp o|r a|oed yno. y dywaỽt yr ym·adraỽd hỽnn; ar+
glỽydi vrodyr a|chỽioryd bydỽch lawen a|chedỽch aỽch
ffyd a|ch crefyd. a|gỽneỽch y petheu bychein a glywsaỽch
ac a|welsaỽch y gennyf|i. a minneu a gerdaf y|fford yd aeth
yn tadeu ni idi. ac yn iach y chỽi heb·y dewi. a phoet grym+
mus yỽch vot ar y|daear. a byth beỻach nyt ymwelỽn ni.
Yna y clywit gaỽr gyffredin yn kyuodi gan gỽynuan
ac ỽylouein a dagreu. ac yn dywedut. och na lỽngk y
daear ni. Och na daỽ tan y|n ỻosgi ni. Och na daỽ y mor
dros y|tir. Och na syrth y mynyded ar yn gỽarthaf ni. a
phaỽp haeach o|r a oed yno yn mynet y angeu. O duỽ|sul
hyt duỽ merchyr gỽedy marỽ dewi ny lewssant na bỽyt
na diaỽt. namyn gỽediaỽ drỽy dristit. a nos uaỽrth yng+
kylch canu y keilyaỽc. nachaf lu o engylyon yn ỻenỽi
y|dinas. a phob ryỽ gerdeu a|digrifỽch ym·pob ỻe yn|y dinas
yn|ỻaỽn. ac yn|yr aỽr voredyd nachaf yr arglỽyd iessu grist
yn|dyuot. ac y·gyt ac ef naỽrad nef. megys y gadaỽssei yn|y
uaỽrhydri. a|r|heul yn eglvr yn egluraỽ yr hoỻ luoed. a
hynny
« p 70r | p 71r » |