LlGC Llsgr. 3035 (Mostyn 116) – tudalen 107v
Brut y Brenhinoedd
107v
A c yna gỽedẏ katarnhau tagnefyd a| r saesson yn| y ỻe
mynet a| oruc yn ol arthur hyt| y|gaer alclut yr hon
ry| daroed y| arthur y rydhau y gan yr yscotteit a| r| fich+
teit Ac odyna y| kyrchaỽd arthur a| e lu hyt y|mureif
y| wlat a elwir o| enỽ araỻ reget Ac yno y gỽarchayaỽd
ef yr yscottyeit a| r fichteit. y rei kyn no hynẏ a ymladys+
synt yn erbyn arthur a| e nei A gỽedy eu dyfot ar ffo
hyt y| wlat hono. ỽynt aethant hyt yn ỻyn ỻumonyỽ
A chymrẏt yr ynyssed a oedynt yn| y ỻyn yn gedernit v+
dunt. kanys tri vgein ynys a oed yn| y ỻyn. A| thri vgein
karrec a nyth eryr ym| pop karrec. A| r rei hyny pop duỽ
kalan mei a doynt ygyt ac ar y ỻeis a genynt yna
dynyon y| wlat hono a adnebydynt y damweineu a
delei yn| y vlỽydyn rac ỽyneb Ac ygyt a hynẏ triugein
avon a redei y| r| ỻyn Ac ny redei ohonaỽ namyn vn a+
fon y| r mor. Ac y| r ynyssed hẏnẏ y| foysynt y gelynyon
y geissaỽ amdiffyn o gedernhit y ỻyn. Ac ny dygryn+
oes vdunt onyt ychydic. kanys kynuỻaỽ ỻogeu a| wna+
eth arthur a| chylchynu yr afonoed a| r ỻyn hyt na| chaffei
neb vynet odyno A| phymthec diwarnaỽt y bu yn eu
gỽarchae veỻy hyt pan vuant veirỽ hyt ar vilioed. ac
mal yd oed arthur yn|y eu* gỽarchae veỻy nachaf bren+
hin iwerdon yn dyfot a ỻyges gantaỽ ac amylder o
bobyloed a| chyfyeith yn borth y| r yscotteit a| r freinc. Ac
ỽrth hyny ymadaỽ a| oruc arthur a| r ỻyn Ac ymchoelut
y arueu yn| y gỽydyl A| r rei hyny gan eu ỻad heb dru+
gared a gymheỻỽys ar ffo y eu gỽlat. A| gỽedy y vudugol+
yaeth hono ymchoelut dra| e gefyn elchwyl y vynu dileu
kenedyl yr yscotteit a| r fichteit hyt ar dim A gỽedy nat
arbedei y| neb megys y| keffit. ym·gynuỻaỽ y·gyt a| wna
« p 107r | p 108r » |