LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 49r
Credo Athanasius
49r
pob personn yn wahanredaul a thruydi e| hun yn vn Argluyd wir velly truy yn cristonogaeth ni ac ynn
kyffredin greuyd yn guechdir ni y gadarnnhav eu bot wy ynn tri Duy ac yn tri Argluyd. Y Tat ny
wnnaethpuyt truy neb megys y gwnna gof neu saer kyllell neu ty nyt ohonnav e| hun na+
myn o defnyd arall megys o haearnn neu o brenn ̷ a heuyt ny chrevyt y Tat ̷ mal y crevyt y byt
neu angel neu eneit dyn ̷ ac ny anet y Tat o berson arall. Y Mab a anet o| r Tat e| hunan ac ny
wnaethpuyt ac ny chrevyt moe no| r Tat. Yr Yspryt Glan a deuth ac a deillydaut o| r Tat a| r Mab
ac eissoes ny wnaethpuyt ef ac ny chrevyt moe no| r Tat neu yr Mab ac ny anet yr Yspryt
Glan mal y ganet y Mab. Canyt mab yr Yspryt Glann y| r Tat Duv ac nyt wyr idav mal
pei y vot yn vab o| e Vab. Namyn vn garyat yv ef y Tat ar y Mab ar y Mab ar y Tat me+
gys cupyl yrydunt yn eu kyssylltu ygyt ac yn an hechvg ninheu ac yn gvascv vrthunt vy.
Vrth hynny vn Tat yssyd yn y Trindaut ac nyt tri That ac vn mab ac nyt tri Meib ac vn Yspryt
Glann ac nyt tri Yspryt. Ac yr geni y Mab o| r Tat a deillyau yr Yspryt Glan o| r Tat a| r Mab
eissoes nyt oes yn y Trindaut honn dim gynt no| e gilyd na dim hvyrach no| e gilyd na dim
voe na dim lei no| r llall; namyn y teir person gogyuoed a gogymeint ynt. A gwir mal y dyves+
puyt vry yn y dechreu y dylyir ym pob pvnnc enrydedu y Trindaut yn yr Vndaut a| r Vnda+
vt yn y Trindaut. Pwy bynnac vrth hynny a vynho iechyt a lles o| e eneit velly y dyly credu
yn y Trindaut. A chyt a hynny reit yv y gaffel iechyt a guaret tragywydaul credu yn gy+
wir kymryt o Iessu Grist an Hargluyd ni cnavt dyn y|mru yr Argluydes Veir. Ac vrth hynny
honn yv y gret iavn credu ohonam ni ac adef vot Iessu Grist yn Argluyd ni yn Vab y Duv ac
yn Duv gvir ac yn wir dyn. Duv yv ef a anet o| r Tat heb dechreu kynn yr holl oessoed a dyn yv
ef a anet o Veir e vam ac yn vorwyn yr yr oes diwethaf o oessoed y byt hvnn. Canys yr oes
gyntaf o| r oessoed a barhavd o Adaf hyt ar Noe a| r eil oes o Noe hyt at Euream Benn Ffyd
a| r tryded oes o Evream hyt at Voessen e petwared oes o Voessen hyt at Dauid vrenhin a phuyt
e pymhet oes o Dauid vrenhin hyny aeth plant Euream Penn Ffyd yn geith y Babilonn Vaur; e
chuechet oes a uu o| r amsser y deuth plant Euream o geithineb Babilon dracheuen y wlat Caerussalem.
E seithuet oes yv o| r amsser y deuth Mab Duv yn knaut dyn hyt dydbravt a| r wythuet oes vyd
o dydbraut yn tragywyd heb diwed arnei. Iessu weithonn y gur a anet o| r Tat Duv kynn yr amsseroed
ac o Veir Argluydes ynn yr amsser teruynnedic ̷ yssyd Duv perffeith a dyn perffeith druydav e| hunan
o gorff ac eneit. Gogybennet a gogymeint yv ef a| r Tat o bleit y dvyolaeth a llei yv ef no| r Tat o
bleit y dynolaeth. A chyt boet Duv ef a dyn eissoes nyt deu ef. Sef yv hynny nyt dvy personn Iessu
Grist malpei vot y neill person yn Duv a| r llall yn dyn; namyn Duv a dyn vn Grist yv ac vn personn.
Vn hagen yv ef mal hynn nyt malpei symut y dvyolaeth yn dynolyaeth ac na bei dvyolaeth
wedy hynny; megys byrryit dauyn o win y|myvn llauer o dvfyr ny thrigyei y dauyn yn win wedy
hynny namyn y symut y dvuyr. Nyt velly yd aeth Duv yn dyn namyn Mab Duv a gymerth gvir
annyan dyn corff ac eneit yn vn personnolyaeth ac ef. Ac eissoes annyan Duv a trigyavd yn wir
annyan Duv mal kynt ac annyan dyn a trigyavd yn wir annyan dyn ac yn vn gvr cvbyl ac yn vn
personn. Ac vrth hynny vn yv Duv a dyn heb gymyscu hagen y dvyolaeth ac annyan dyn mal
pei na thrigei y dvyolaeth a| e dynolyaeth yn eu hannyan kyuan mal kynt namyn symud yn try+
dyd annyan. Megys pan vwyttao dyn amrauaelon vvydeu ny thric vn ohonunt yn y liv nac yn y
annyan mal kynt namyn y symut a wneir yn anyan y dyn. Neu pan gymescer gvin a dvuyr yn
vn vessur y kymysc hvnnv ny byd na gvin na dvuyr namyn vn peth trydyd. Nyt velly y kyssyllt+
vyt Duv a dyn yn vn person Iessu Grist malpei vot Crist yn ryv beth trydyd hep y vot yn Duv nac yn
dyn. Canys megys o eneit dylyedus a dyall genti ac o gorff y byd vn dyn guir velle Duv a dyn yssyd Ie+
ssu Grist. Canys megys o eneit a chorff y byd vn berson dyn a chyt a hynny nyt o bleit y corff y
byd perssonolyaeth dyn namyn o bleit yr eneit a| r eneit a dichaun bot truydi e| hunan hep y corff
wir velly o Vab Duv ac o annyan dyn a gymerth ef y mae vn person Iessu Grist yn vn Duv hagen ac
yn dyn mal kynt eithyr vot yn personolyaeth oll o bleit Duv ac nyt truy annyan dyn. A Mab
Duv heuyt a uu truydav e| hunan kynn kymryt ohonav annyan dyn yn vn person ac ef a
all hep annyan dyn beis mynnei mal y bu kynn no| e eni o| r Argluydes Veir. Ac eissoes nyt
« p 48v | p 49v » |