LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 97v
Brut y Brenhinoedd
97v
gormwnt ar saesson y·gyt; ymlad a orugant a|chere+
dic. ac yn yr ymlad hwnnw y cavas gormwnt y uu+
dygoliaeth. ac y gyrrwyt keredic ar ffo hyt yng|kaer
uudeu nev o ieith arall circestyr.
A gwedy goruot o|r Gormwnt hwnnw arnadunt;
y doeth Jmbert nei y vrenhin freinc a gwrhau
ydaw yr y dyuot yntev yn borth ydaw y geisiaw go+
resgyn freinc y ar y ewythyr. canys hwnnw a|y gyr+
rassei ynteu o freinc y ar y wir dylyet e|hvn kyn no
hynny. A gwedy gwrhau idaw wynt a doethant y+
gyt am ben y dinas; ac ymlad yn greulon ac wynt
bevnyd. ac ev gwarchae y mevn heb gaffel onadunt
ford allan. ac yr hynny nyt yttoedynt yn ennyll
dym; onyt colli ev gwyr yn olofrud. Ac yna y caf+
sant yn ev kynghor peri y bawb daly o adar y to
a elleynt vwyaf o·nadunt yn vew. ac ev gwarchae
velly yny vei agos yr nos. Ac yno kymryt bsisg*
y knev. ac ev llenwi yn llawn o yspwng. a brynstan.
a phyc. a dodi tan yndunt. ac ev rwymaw wrth yr
adar hynny. ac ev gillwng gan y nos. Sef a wnaeth+
ant wyntev ehedec hyt yn to y tei yn|y dinas. ac yr
deisiev. ac yr mydylev. a chynydu y tan yn ev ehediat
gan wynt ev hesgyll. yny yttoed y dref yn boeth kyn
y dyd drannoeth. Ac yna y doeth keredic allan y ro+
di cat ar vaes ydunt; ac ny thygyws ydaw dim.
namyn y kymhell ar ffo. yny doeth drwy hafren y dir
kymry. Ac wynteu yn|y ymlit gan llad a llosgi y di+
nessyd. ar kestyll. ar treuy ar dir. heb eiryach neb ryw
dyn. nac ysgolheic na llehic o|r a gyuarffei ac wynt;
« p 97r | p 98r » |