LlGC Llsgr. 3035 (Mostyn 116) – tudalen 68r
Brut y Brenhinoedd
68r
ar yr aruordir yn erbẏn y|neb a wedassei y vaxen
ac ar a|e kanhorthỽysassei. A sef gỽyr oed tywyssogyon
arnadunt. Gỽinwas a melwas. a gỽinwas oed
vrenhin ar y|wlat a|elwir hunaỽt A|melwas oed
vrenhin ym|peitaỽ A gỽedẏ ymgyfaruot o|r moryn+
yon a|r yskymunedic bobyl honno yn|y mordỽy hỽnỽ
gỽedy gỽelet onadunt eu tecket. keissaỽ a|wnaeth+
ant ymraỽhethu ỽrthunt ac eilenwi eu godineb
A gỽedy na mynei y|morynyon kyt·synyaỽ ac ỽynt
yn yr ewyỻis honno. Sef a|wnaeth y bratwyr hynẏ
ỻad y ran vỽyaff o·nadunt Ac yn dianot pan glyỽs+
sant bot yny* prydein. a chymrẏt y·gyt ac ỽynt
y porth vỽyaf a aỻassant y chaffel o|r ynyssed
yn eu kylch a|dyuot a|r alban y|r tir A|dechreu
anreithaỽ y gỽladoed oed heb lywyaỽdyr nac
amdiffynnỽr arnadunt. a|ỻad y bileinỻu a|r tir+
diwyỻodron. Ac yna eissoes gỽedy menegi y
vaxen y|trueni hỽnnỽ yd anuones ynteu Gra+
tian rodgymryt a dỽy leg o wyr aruaỽc gyt
ac ef y amdiffyn y brytanyeit. a gỽedy dyuot
gratian hyt yn ynys brydein a dechreu ymlad
a|r gelẏnyon a gỽneuthur aerua diruaỽr ona+
dunt ac eu kymeỻ ar fo hyt yn jwerdon. Ac
yn yr amser hỽnnỽ y ỻas maxen yn rufein ac
y gỽasgarỽyt a oed y·gyt ac ef o|r brytanyeit
ac y|foassant hyt yn ỻydaỽ ar gynan meiradaỽc
A phan gigleu gratian rod·gymryt ry|lad ~
Maxen yn rufein. kymryt a|oruc ynteu vren+
hinyaeth ynys predein. A gỽisgaỽ coron y
teyrnas am y ben e|hun A gỽedy y vot yn vrenhin ̷ ̷
« p 67v | p 68v » |