LlB Llsgr. Ychwanegol 19,709 – tudalen 46r
Brut y Brenhinoedd
46r
kaer wynt y ỻe yd oed gonstans yn vynach. y mab
hynaf y gustenhin vendigeit oed hvnv. a|dywedut
ỽrthav val hyn. Constans heb ef dy dat ti yssyd
varỽ a|th vrodyr di yssyd ry|ieueinc ỽrth wneuthur
brenhin onadunt. ac ny welaf inheu o|th lin titheu
a aỻo bot yn vrenhin. ac ỽrth hẏnẏ o bydy titheu vrth
gygor ac achwanegu medyant a|chyfoeth i minheu
Mi a ymchoelaf vyneb pavb o|r teyrnas parth ac
attat titheu ac a|baraff dy dynnu o|r abit hvn.
kyt bo gvrthvyneb gan yr vrdas a|th wneuthur yn
vrenhin. a|phan gigleu gonstans yr ymadravd hvnỽ
ỻawenhau a wnaeth yn vavr. ac adav drvy aruoỻ
rodi idav pop peth o|r a vynhei. ac yna|wnelhei dim
o|r vrenhinyaeth namyn drvy y gygor. a|e gymryt
a oruc gỽrtheyrn gỽrtheneu a|e tynnu o|e venech+
tit a|e wisgav o vrenhinavl diỻat a dyuot ac ef
hyt yn ỻundein. ac yna o vreid kaffel canhat
y bobyl o|e drychafel yn vrenhin. ac yn yr amser
hỽnnỽ marv vuassei guelyn archescob ỻundein.
ac vrth hynny ny chaat vn escob a gymerhei ar+
naỽ y gyssegru yn vrenhin vrth y tynnu o|r cre+
fyd ac eissoes yr hyny nyt ebrygofes gvrtheyrn
y gỽeithret hvnnỽ namyn yn ỻe escob yd aeth
e|hun a|chymryt coron y teyrnas a|e dodi am y pen con+
stans ac veỻy y vrdav yn vrenhin
A gỽedy drychafel constans yn vrenhin y ro+
des ynteu ỻywodraeth y teyrnas oỻ yn ỻaỽ
« p 45v | p 46v » |