Llsgr. Caerdydd 1.362 (Hafod 1) – tudalen 71v
Brut y Brenhinoedd
71v
o ryt garadaỽc y gedemeith a menegi idaỽ y vedỽl
yn|y wed hon. Dioer heb ef maỽr yỽ ynof ui ka+
ryat eigyr. Ac nyt diheu genhyf na chollỽyf vy
eneit ony chaffaf y wreic ỽrth vyg kyghor. Ac
ỽrth hynny dyro ym gyghor trỽy yr hỽn y gall+
ỽyf i. eilenwi vy ewyllys. kanyt oes pedruster gen+
yf vy aballu ony chaffaf y wreic. Ac y dwaỽt vlphin.
Arglỽyd heb ef a allei kyghor itt pryt na bo fford
yn|y byt yd ymgaffer a hi. kans y kastell y mae
hi yndaỽ y ssyd ar pen karrec yn|y weilgi. yn gae+
dic o|r mor o pop parth idaỽ. Ac nyt oes fford yn|y byt
y galler mynet idaỽ. na dyuot o·honaỽ namyn ar
hyt ethrycyk vn karrec gyuyg y ssyd o|r hyt y tir.
Ar garrec honno trywyr a|e katwei yn aruaỽc rac
holl teyrnas ynys prydein. Ac eissoes arglỽyd heb
yr vlphin pei myrdin vard a rothei y weithret ỽrth
dy vedỽl ti. Mi a tebygaf y gallut ti gaffel y wreic
ỽrth ty gyghor ti. Ac y velly erchi a oruc y brenhin
dyuynnu myrdin attaỽ. kans yn|y llud yd oed. A gỽe+
dy dyuot myrdin. erchi a|wnaethpỽyt idaỽ rodi kyg+
hor yr brenhin trỽy hỽn y gallei ef gaffel eigyr
ỽrth y ewyllys ef. A gỽedy gỽybot o vyrdin meint
oed garyat y wreic a|e serch yn|y brenhin doluryaỽ
a oruc yn vaỽr. A dywedut ỽrthaỽ val hyn. Arglỽ+
yd heb ef o mynny ti gaffel y wreic ỽrth dy vynnu.
val yd ỽyt yn|y damunaỽ. reit yỽ it arueru o gel+
uydydeu newyd ny chlyỽspỽyt eirioet y|th amser
ti. kans mi a|ỽn geluydyt trỽy yr hỽn y gallaf|fi
rodi drych gorlois arnat ti. hyt na bo neb a adna+
« p 71r | p 72r » |