LlGC Llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth) – tudalen 95v
Mabinogi Iesu Grist
95v
uydedic ueir wyry. yr honn a|oed a|r mab ar y harffet. ac y
dywaỽt ỽrth y ỻu oỻ a|e|gedymdeithon. Pei na bei duỽ hỽnn
heb ef ny dygỽydassei yn dwyweu ni rac y vronn ef. ac ny
orwedynt yn vriwedic rac y ovyn. y rei yssyd yn|darestỽng
o|e vot yn|duỽ udunt. Y peth y gỽelom ni yn dỽyweu yn|y
wneuthur. ony wnaỽn ninneu ueỻy. perigyl yỽ ynn oỻ
haedu y anuod ef. ac yn dyuot att baỻedigaeth tragyỽ+
ydaỽl. megys y daruu y pharao ac y|lu yr eifft yr hỽnn
n·y chredaỽd yn nerthoed duỽ. hỽnnỽ a|e lu a uodes yn|y
mor. ac yna hoỻ bobyl y dinas hỽnnỽ a|gredassant idaỽ
G wedy kerdet o iessu y|r eifft. pan [ ef yn diannot. ~ ~
yttoed ef yng|galilea yn|dechreu y bymthecuet vlỽyd+
yn o|e oet. duỽ sadỽrngỽeith yd oed yn gỽare ygyt a|r mei+
byon ar lann eurdonen. y doeth iessu ac y trosses yr auon yn
seith rann. a gỽneuthur kỽndit gỽahanredaỽl y bob vn
trỽy y rei y kerdynt o|r readyr ual yd archei ef. ac eilweith
drachefyn. Ac yna y doeth vn o|r meibyon. mab y gythreul
o gynghoruynnus vryt ac a|gaeaỽd hyttynt y dỽfyr a|oed
yn kerdet y|r ỻynneu trỽy|r kỽndideu. ac a drosses y gỽeith
oỻ a|lauuryassei Jessu. Ac yna y dywaỽt iessu ỽrth y mab
hỽnnỽ. yn wir mab y angeu ỽyt|ti. y ỻauur a|wnathoedỽn
i. paham y gwasgereist di hỽnnỽ. a|r mab a|wnathoed hyn+
ny yn|diannot a vu uarỽ. Ac yna o|lef aflonyd y ỻefaỽd rie+
ni y mab marỽ yn erbyn Joseph a|meir. ac y dywedassant
ỽrthunt. aỽch mab chỽi a ymeỻtigaỽd yn mab ni yny vu
varỽ. Pan gigleu meir a Joseph hynny. ỽynt a|doethant
att iessu rac gỽneuthur eu brat o rieni y mab marỽ hỽnnỽ.
« p 95r | p 96r » |