LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 29v
Ystoria Adda ac Efa
29v
yna y daeth adaf ynyy yttoed att y wreic. ac yno y cauas ef hi yn doluryus wylouus.
yna y dyvat eua vrth adaf. a elly ti argluyd yscaunhav arnaf vyn dolur. guedia ti yn
hargluyd ni drossof y waret vyn dolur. ac y trugarhav vrthyf o| m doluryeu maur ac
y| m rydhau. ac adaf a dechreuaud gwediav drosti. a| e wedi ef a wenrendewis duv. ac
yna y deuth deudec angel a gwyrtheu duv gantunt o| r parth deheu vdunt. ac o| r parth
asseu. a mihangel rac y bronn o| r parth deheu idi a| e chymryt y vynyd a wnaeth. a dyvet
vrthi. Eua bendigedic wyt ti. ac yr dy argluyd adaf a| e wedieu maur ef. y| m hanuonnet
i attat ti. kyuot ti ac ymarlvyha. ef a vyd etiued itt yr aur honn. ef a vendigaud itt
vab tec iaun. ac yna y ganet cayn. a chalmana y chuaer. a phann anet cayn. y kyf+
odes a| e dvylav y kymyrth llysseu o| r daear ac y duc yn y lav. ac yna y gelwit ef cayn.
adaf a gymerth eua a| e meibon. ac a| e duc hyt y dwyrein. ac yna y kymerth llawer o
amryv hadeu. ac yd anuones gan vihangel y adaf. ac y dangosses idav megys y dylyey
lauuryav y daear. a| e thywanu. megys y tyfei ffrwytheu. ac ymborthei ef. a| e lin ohonunt
gwedy hynny. Pymthec mlyned wedy hynny y ganet. abel. a delbora. yr abel hvnnv a
vu gyt a| e vraut cayn. yna y dyvat eua vrth adaf. argluyd mi a gysgeis. a gveled+
igaeth a weleis bot yn mab ni cayn. yn tynnv guaet abel y vraut. a| e dvylav ac yn y
yuet. Yna y dyvat adaf. truan y mae arnaf|i ovynn mavr y llad cayn. abel. gwahan+
vn wynt yr aur honn. a rodvn guahan vvyt vdunt. ac ynna y gvanyssant cayn y la+
uur y tir. ac abel yn vugeil. ac velly y gwnaethant. ac eissoes mal y mynnvys duv.
hvynt a doethant ygyt ell deu y penn mynyd y aberthu. ac y degemu heruyd deduaul
ossot hendedyf. ac edrych a oruc yr argluyd ar aberth abel. ac ny ragavd bod idav
aberth cayn. canys y|gvrthvynep y vryt yd aberthei. A phan cayn nat edrychei yr ar+
gluyd ar y offrum ef. enynnu o gyghoruynt a oruc ef. a llad abel y vraut a wnaeth
a phan welas adaf llad o gain y vraut. argannvot a wnnaeth ry doethoed o druc
druy wreic. a thygu a oruc na bydei dras idav a hi. ac y diofuredaud deucan mlyned oh+
onei. ac eissoes o gymynediv yr argluyd guedy hynny. y deuth adaf att y wreic. ac
y cauas mab ynn lle abel. ac yna y dywat ef vrth eua. neu geueist ti y vab y avr honn.
Ac yd oed abeb yn deng mlyned ar hugeint a chant o oet pan las. guedy llad abel. y bu
dvy vlyned ar hugeint a chant hyt pan anet seth. Seth a vu trychant mlyned yn
vyv. ac y bu idav deg meip ar hugeint. a dec merchet ar hugeint. ac y gain y bu tri
meib a their merchet. a guedy hynny yd adaf y lyn ebronn.
« p 29r | p 30r » |