LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 19r
Ystoriau Saint Greal
19r
y bydei haỽs dy arwein di wedy y tynnit yr haearn o·honat.
Nac ef vy arglỽyd heb ef nyt ymrodaf i yn antur kymeint
a|hỽnnỽ rac vy marỽ heb gyffes. Ac ueỻy y goruc galaath y
gymryt yn arafaf ac y|gaỻaỽd a|cherdet ac ef yny doeth y|r va+
nachlaỽc. a|r|myneich a|e herbynnassant ar lewenyd maỽr
ac a|gymerassant melian ac a|e dugassant y ystaueỻ dec a
gỽedy tynnu y arueu y amdanaỽ. ỽynt a|dugassant korff
y arglỽyd ˄idaỽ. a|gỽedy kymryt kymun ohonaỽ. ef a|dywaỽt
ỽrth galaath. arglỽyd heb ef. praỽf di weithyon tynnv penn
y gỽaeỽ o·honaf|i. kanys parot ỽyf y gymryt vy angheu.
Ac yna galaath a roes y laỽ ar yr haearn ac a|e|tynnaỽd. Ac
ynteu yna o dra|dolur a lewygaỽd. Ac yna manach o|r|ty a
vuassei uarchaỽc urdaỽl a|edrychaỽd y dyrnaỽt. ac a|dywaỽt
y alaath y bydei vyỽ a iach erbyn penn y mis ~ ~ ~ ~
A C yno y trigiaỽd galaath y dyd hỽnnỽ a thrannoeth
ac hyt ym|penn y tri·dieu y edrych a|eỻit iechyt y ve+
lian. ac yna ef a|o·vynnaỽd idaỽ pa|wed yr oed. ac ynteu a
dywaỽt y uot yn weỻ. Gan hynny heb y galaath minneu
a|aỻaf vynet ymeith. Och arglỽyd heb y melian alwẏssen
oed ytt vy aros y·gyt a|thi. a unbenn heb y galaath nyt ang+
henreit ytti ỽrthyf|i yma o|dim. a|reidyach oed y minheu vot
yn|ỻe araỻ yng|keis seint greal yr hwnn a|dechreuwyt o|m
achaỽs i. Paham heb·yr vn o|r myneych. a dechreuwyt pere ̷+
rindaỽt y greal. Do rof a|duỽ heb·y galaath. a|chedymdei+
thyon o|r|keis ym ni. Gan hynny heb y manach ỽrth y mar+
chaỽc briwedic oblegyt dy bechodeu y kyfaruv a|thi y govit
hỽnn
« p 18v | p 19v » |