LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 4v
Ystoria Adda
4v
ỽychet y porth heb yr agel. ac edrych o vyỽn yn graff beth a ỽelych yno. A| phan
dodes y| benn y|myỽn. ef a ỽelas kyuryỽ degỽch val na allei dauaỽt y| draethv
eu hamryuael dygenedloed ffrỽytheu a blodeu na| r kyvryỽ kyỽyd+
olyaeth ac organ a werendewis ny|s clvyssei dyn eiroet. ef a| ỽelei heuyt ffyn+
naun eglur. ac ohonei pedeir ffrut yn llithraỽ. enveu y| pedeir auon. oedynt
physon. gyon. tygris. euffrates. a| r pedeir auon hynny yssyd yn gỽassanaethu dỽ+
fyr echwyd y| r holl vyt. Ac uch benn y ffynnaun yd| oed prenn diruaỽr y| veint.
ac amyl y|geigeu yn kellueinneu noeth heb risc heb deil arney. Ac yna y| medyly+
ỽys seth pan yỽ oed y| prenn hỽnnỽ y| pechassey y| reeny ohonnaỽ. o| e| welet yn ge+
llueint o| r vn achaỽs ac y gỽelssey olyeu y| ryeni heb tyfu bleỽyn y| fford y| kerdess+
ynt. ac o| r vn achaus hỽnnỽ bot y| prenn y|noeth o| bechaut y| reeni. Ac yna
y tynnỽys ef y| benn dracheuen at yr agel y datkanu idaỽ yr hynn ry| ỽelssei yn
llỽyr. Ac yna yd| erchis yr agel ydaỽ edrych dracheuen y|myỽn y| ỽelet petheu
ereill. A| phan edrychỽys y gỽelas yno y| prenn llỽm gynneu yn damgylchynnedic
o deil a| risc. ac yn gyuuch a| r nef. Ac ym| blaen y| prenn yd| oed mab neỽyd eney
a|dybygei ef yr aỽr honno. a dillat mab yn| y gylch. Ac ovyn vu arnaỽ o| r wele+
digaeth honno. a| throssi olỽc tu a| r daear. Ac yno y gỽelei gỽreideu y| prenn
yn mynet trỽy y daear hyt yn vffernn. Ac yno yd| adnabu ef eneit avel y
vraỽt. Ac odyna yd| ymchỽelaud y| trydeỽeith at| yr| agel datkanu ry| ỽelsei.
Ac yna y| dehogles yr agel ydaỽ y| weledigaeth am| y| mab. y| mab ry| ỽeleist
di heb ef. mab duv yỽ hỽnnỽ yr hỽn yssyd yn kỽynnaỽ pechodeu dy| ryeni dy.
ac a| e kỽynn yny del kyflaunder yr amsser. A hỽnnỽ yỽ yr olev adevit y| th
ryeni dy. hỽnnỽ a| ỽna y trugared dros dy reeni dy. a| thros eu hetiued. a| r tru+
gared honno yỽ priodolder caryat. Ac gỽedy dyscu seth o| r agel val hynny pan yttoed
yn mynet ymdeith y| rodes yr| agel idaỽ tri gronyn o| geudaỽt aual y| prenn hỽn+
nỽ val yd| archassei y| tat idaỽ. a menegy idaỽ y| diffodei y| tat ar| benn y| tridieu gỽ+
edy y| delei seth at adaf. A dot titheu y| tri gronyn hynn adan wreidon y| davaỽt
ef. Ac onadunt y| kyuodant teir gỽialen. vn onadunt a| vyd o| ryỽ cedrus yr eil a
vyd o ryỽ cypressus. a| r tryded a| uyd o| ryỽ y| pinus. trỽy y| cedrus y| deellir y| tat o| r
nef. kannys vchaf prenn y| dyfyant yỽ. drỽy cypressus y deellir y| mab. kanys gor+
eu prenn yỽ y arogleu a| melyssaf y| ffrỽyth. trỽy y| pinus y| deellir yr| ysbryt glan
herỽyd amylder y| ffrỽyth. Ac odyna yd| aeth seth at| y| tat a| e neges yn rỽyd
dracheuen gantaỽ. A phan datkanaỽd y adaf y| neges llaỽen vu. A llyna yr vn
weith y| chwardaỽd adaf yr| pan doeth y| r daear. Ac o| hyt llef a| dodes y| dyỽat. Ar+
glỽyd heb ef digaun yỽ hyt vy myỽyt kymer vy eneit atat. A chyn penn y| tri di+
eu val y| dyỽat yr agel y diffodes adaf. Ac yglyn ebron y cladaỽd seth y vab ef
a| r tri gronyn a| dyỽespỽyt vchot dan wreidon y| tauot. Ac o| rei hynny y| ko+
uodes teir gỽialen ar oet byrr. a chymeint oed hyt pob vn a| e gilyd. A| r gỽyal
hynny a drigassant o enev hadaf hyt at noe. ac o| noe hyt at evream ac o evre+
am hyt at voessen heb na thyfu na| chrydu mỽy no hynny na symutaỽ dim
o| r vn anssaud. Ac odyna pan aeth moyssen y| dỽyn pobyl yr israel o geithiwet
yr eiffyt. y|gan pharao vrenhin trỽy vor rud. ac y| bodes pharao a| e bobyl. ac
y| doeth moessen hyt yglyn ebron. a| phobyl duỽ ygyt ac ef. Ac val y dyccoed
voessen gỽedy lluestu bendigaỽ y| bobyl a| ỽnaeth y| vynet y| dyrchauel y| teir gỽia+
len a| oedynt o enev adaf. A chan y| dysgu o| ysbryt proffỽydolyaeth. achub y| teir
gỽialen a| oruc. ac eu tynnv. A phan y tynnỽys o enev adaf y kaỽssant kyfryỽ
« p 4r | p 5r » |