Llsgr. Caerdydd 1.362 (Hafod 1) – tudalen 73r
Brut y Brenhinoedd
73r
kastell a llad vyg gỽyr. Ac ỽrth hynny blin yỽ gen+
hyf dyuot y brenhin am an pen ninheu. a chaffel y kas+
tell hỽn heuyt. Ac an kaffel ninheu yndaỽ ef an deu ac
ỽrth hynny miui a af yn ewyllys y brenhin. Rac ky+
uaruot a ni a vo gỽaeth no hynny. Ac ar hynny kych+
ỽyn a|wnaeth y brenhin a mynet ar y llu. A bỽrỽ
drych Gorlois y arnaỽ. A mynet yn|y drych e|hun. A gỽ*+
dy menegi yn wir ar daroed. doluryaỽ yn vaỽr a oruc
am agheu Gorlois. Ac eissoes o|r parth arall llawen vu
o achaỽs bot eigyr yn ryd o rỽym priodas. Ac o+
dyna ymchoelut a oruc y brenhin parth a chastell
tintagol y gymryt y kastell idaỽ e|hun. Ac y gymryt
eigyr yn wreic idaỽ heuyt. Ac o hynny allan y trigas+
sant y gyt yn rỽymedic o diruaỽr garyat. Ac y ga+
net vdunt Arthur. ac anna.
AC ym pen yspeit gỽedy dydyeu ac amser oed hei+
baỽ. cleuychu a wnaeth y brenhin o ỽrthrỽm he+
int. A gỽedy y uot llawer o diwed* yn|y cleuyt hỽnnỽ.
blinaỽ a wnaeth y gỽyr a oed yn kadỽ octa ac ossa.
Ac eu ellỽg o|r karchar. A mynet y gyt ac ỽynt hyt
yn germania. Ac ỽrth hynny kynhỽryf a gymyrth
yr holl teyrnas. kans beunyd y|dytgenit udunt bot
y saesson yn parattoi llyghes. Ac yn ymchoelut tra+
cheuyn y orescin ynys prydein. Ac ar hynny ỽynt
a doethant a llyghes diruaỽr y meint gantunt. ac
amylder o niuer y gyt ac ỽynt y tir yr alban. A
dechreu llosci y wlat a|e anreithaỽ. Ac yna y gorchy+
mynỽyt y leu vab kynuarch llu ynys prydein ỽrth
ymlad ar gelynyon hynny. Jarll oed hỽnnỽ a mar+
« p 72v | p 73v » |