LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 40r
Marwolaeth Mair
40r
a gredaf yn Iessu Grist Vab Duv an Argluyd ni yr hvnn a ymduc honn yn y bru ac a uu yr hynny wyry
wedy escor mal kynn escor. A phann daruu idav dyvedut hynny a rodi y enev wrth yr elor y kauas y holl
iechyt ac y dechreuis moli yr Argluyd yn vaurydic a dvyn tystolyaeth a oruc y Veir o lyuyr Hen Dedyf
ar y bot hi yn temyl y Duv. A chymeint a dyvat o| e darogan ac yny oed yr ebestyl yn wylaw rac meint eu
llewenyd. Ac vrth hynny y dyvat Peder vrthav Kymer y palym hep ef yssyd yn llaw Jeuan an
braut ni a dos y| r dinas ac ef y| th lav a thi a welyd dy bopyl yn dall a dot y palym vrth eu llygeit
ac a gretto onadunt a geiff y olvc ac ar ny chretto onadunt a vydant veirw. A gwedy gwnn+
euthur ohonav hynny y cauas llauer o| r bobyl yn kwynvann ac yn dywedut Gwae ni pann yn
trevit o delli val y bopyl o Sodoma. A phan glyvssant ymadrodyon tywyssauc yr offeireit
yn datkanu gwyrtheu Duv y credassant ac y caussant eu golvc. Pwy bynnac hagen ohonunt
o| e galedi a barhaey yn y gamgret y buant varw yn eu delli. Ac odyna y duc tywyssawc yr off+
eireit y palym dracheuen ar yr ebestyl a datkanu vdunt pob peth o| r a wnnaeth. Ac odyna yr
arwedassant yr ebestyl corff y Wynuydedic Veir hyt y vynnwent
ac wynteu a eistedassant ar drvs y vynwent mal y gorchymynnassei yr Arglwyd vdunt.
Ac yn y trydydyd val am avr echuyd nachaf yr Arglwyd Jessu Grist a lluossogrwyd engyl+
yonn yn dyuot ac en groessavu ac yn dyvedunt vrthunt Tangneued ywch. Ac wynteu gann y a+
doli ef a dywedassant Dioluch y titheu Duv tu hun a wney pob peth o| r a vo anryued. Ac
yna y dyvat yr Argluyd vrthunt Kynn vy anvon o| m Tat y gwpplav kyssegyr y diod+
eiueint a mi etva yn gorfforaul gyt a chui yd edeweis i ywch chwi a oedewch y| m ketem+
eithas: Yn adanedigaeth y dynyon pan eistedho Mab Dyn yg kadeir vrawdwryaeth yd
eisteduch chuitheu ar deudec cadeir y varnu ar deudec llwyth yr Ysrael. Hynn yntev a eth+
oles guelediageth vyn Tat i o vn o lvytheu yr Israel y gymryt knawt ohonei ac am
hynny y kyssegreis i hihi yn temyl ym yn dilugyr y gweryndawt y bresswylaw ohonei kynn escor a gwedy escor. A llyma weith+
on wedy ry cuplav ohonei hi dylyet yr anyan. Pa beth bellach a vynnwch chwi y wnneuthur oho+
naf amdanei hi. Peder a| r ebestyl a attebassant idaw val hynn Ti Arglwyd a etholeist
yt y llestryn hvnn yn lanaf orffuyssua yt. Pob peth Arglwyd a wnneuthost kynn oes+
soed yn berffeith. Ac vrth hynny Arglwyd o gallei vot ger bronn dy rybuched di
a| th vedyant ef yr welet yni dy weisson di megys y gwledychych di y| th ogonyant
kyuodi ohonat dy vam a| e dwyn yn llawenn y| r nef. Bit herwyd ych barnn chwithev
hep yr Argluyd vrth yr ebestyl. Ac erchi a oruc ef y Vihagel Archangel dydwynn eneit
y gyssegredic Veir. Ac ar hynny nachaf Gabriel Archangel yn troi y maen y ar y bed.
Ac yna y dyvat yr Argluyd Vyg ketymeithes a| m kyfnessaf a| m colomen gorffwys+
va gogonyant llester y vuched temyl nefaul kyuot y vynyd. Kanys megys na chytssynn+
yeisti a halogruyd pechaut truy gywestach ny diodefuy ditheu ynn deilwg dy gorff yn y bed.
Ac yn diannot y kyuodes y gyssegredic Veir o| r bed a dygwydaw ar dal y deulin y adoli y draet yr Ar+
gluyd a dechreu moli Duv a dyvedut vrthav val hynn Ny allaf vi Arglwyd talu diolcheu a vei deilwg
yti cany allei yr holl vyt dy voli yn gyulaun. Ac eissoes bit venndigedic dy enw di Duw yr Ysrael a bit
dyrchauedic dy env y gyt a| r Tat a| r Yspryt Glan ac yn yr oes oessoed. A| e dyrchauel a oruc yr Ar+
gluyd idi a mynet dvylav mynvgyl idi a| e rodi at Vihagel Archangel ac yna rac y vronn ef y dyr+
chafvyt gyt a| r egylyonn y| r wybyr. Ac yna y dywat yr Arglwyd wrth yr ebestyl Nessewch
attaf|i y| r wybyr. A gvedy y dyuot atav y dyvat Mi a adawaf ywch tagneued a mi
a ytwyf y·gyt a chui beunyd hyt yn dived y byt. Ac odyna gwedy dywedut ohonaw hynny y gyt
a| r egylyonn yn canu ac y·gyt a| e vam yd aeth ef y baradwys. Ac o nerth yr Arglwyd yna y kym+
ervyt yr ebestyl y| r wybyr ac y ducpvyt pob vn ohonunt y| r lle yd oedynt gynt ynn prege+
thu y datkanu ac y bregethu maur wyrtheu Duw yr hwnn a uuchedockaa
ac a wledychaa yn y Trindaut Perffeith Teir Person nyt amgen y Tat a| r Mab a| r Yspryt Glan ac yn vn Duw
anwahanedic yn oesseu yr oessoed. Amen.
« p 39v | p 40v » |