LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 50v
Fel y rhannwyd yr Ebestyl, Efengyl Ieuan
50v
*Yn y dechreu yd oed geir a|r geir a oed at Duv a Duv oed y geir. A hynn a oed ar y dechreu gyt a Duv.
A ffopeth truydav ef a wnaethpuyt a hepdav ef ny wnnaethpuyt dim. A|r pet a wnaethpuyt
yndaw ef buched oed a|r vuched oed leuuer y|r dynyon. A|r lleuuer a levycha yn y tywylluc a|r ty+
wylluc ny|s amgyffredaut. Ef anvonnet dyn y gan Duv yr hvnn oed y eno Ieuan Hvnn a oed yn tyst
y roi tystolyaeth o|r goleuat val y crettei dynyon truydav ef. Nyt oed leuuer ef namyn y rodi tysto+
lyaeth o|r goleuat yd oed lleuuer guir a oleuhaa pob dynn o|r a del y|r byt hvnn. Yn y byt yd oed a|r
byt truydav ef a wnnaethpuyt. A|r byt ny|s adnabu. Yn y priodolder y doeth a|e eidaw ef nys aruoll+
yssant. Pvy bynnac hagen a|e haruolles ef ef a rodes vdunt gallu y vot yn veibon y Duv. Y neb a
gretto yn y eno ef y rei ny anet o waedeu nac o ewyllys y knavt nac o ewyllys gvr namyn y
rei a anet o Duv. A|r geir a wnnaethpuyt yn gnavt ac a bressuylyavd y|n plith ni a ni a welsam
y ogonyant ef megys gogonyant vn mab a anet o|r Tat kyulawn o rat a gvirioned.
pW|bẏnnac a|vynna gwarandav euegyl Jeuan megys y dosparthyssant athravon da truy oes;
mal hynn y|gwerendeir. KYnn bo perffeithach duv no|chreadur o|r|byt. a|haus y|dyall yndav ef
no dyn arall; a|hynn o lauer fford. heb rif arnunt. eissoes ny dichaun dyn yn|y byt hvnn dyall. na dyw+
edut persson heuyd duv. onyt truy gyffelybruyd yrynn a|welvn yn creaduryeit. ac yn enwedic yn
dyn. ar wnaethpuyt ar delo duv. canys yndi hi y|mae cof. a|dyall. ac ewyllys. a gvahan yssyd
yrung pob vn ohonunt vy a|e gilid. canys nyt vn peth y|cof. a|r dyall. neu|r ewyllys. ac nyt vn peth
y|dyall a|r ewyllys. canys llauer dyn a|dav cof idav llauer peth. ac ny medylya ymdanav. a|llauer
dyn a|vedylya am|beth. ac ny vn ef y|peth a|vedylyo. a chynn boent y tri pheth vy gwahannedic;
y|mae pob vn onadunt vy yn|y gilyd. canys cof yv gan y cof ef eu hunan. a|chof yv gantav y|dyall
a|e ewyllys. a|r dyall; a|dyeill ef e|hun. ac a|dyeill y|gof a|e ewyllys. a|r ewyllys a|vyn ac a|gar y
cof a|r dyall. a|r ewyllys. ac vrth hynny; gogymeint ynt ell tri. a gogyueet. ac eissoes o|r cof
y geur medyl ynvyt dyn megys eichrvet idav. a|r medul yssyd eir. a|chyt a|hynny o|r cof a|r|geir
y|dav yr ewyllys. velly yv yr vudaut. a|r|trindaut o|r nef y|mae vn dvyolaeth. a|their personn. ac nyt
vn berson yv vn ohonunt a|e gilyd. Sef yv y|rei hynny; y tat duv. a|r|mab a|r|yspryt glan. Y|tat
yssyd megys cof. a|r mab megys medul a|geir. a|r ewyllys yspryt glan megys ewyllys
canys mal y|genir geir o|r cof e|hunan. velle o|r tat duv e|hun y|ganet y|mab yn vn duv a|r|tat.
ac nyt yn vn berson. ac val y|dav o|r cof. a|r medul. ewyllys. velle o|r tat. a|r mab y|doeth. ac y deillyd+
aid yr yspryt glan. yn vn duv. a|r tat a|r|mab. ac nyt yn vn berson. a|hvnnv yssyd garyat ac
ymouyn yrug y|tat a|r mab. a|r|teir person hynn yssyd ogymeint. a|gogyuoed. a|gogystal. a|go+
gyuurd. ac vn dyall. ac vn aallu. canys y tri yssyd vn duv diwahan ac o achaus hynny pob vn onad+
unt vy yssyd yn|y gilyd. o achaus vot pob vn yn duv. a|r llall. a heuyt o achaus na bu y|r tat y tat o|nef
erioet hep vab canys ny bu y|tat eroet hep dyvedut yn|y vryt geir. ac eissoes ny dywyat ochyr
vn geir. a|hvnnv yv y|vab. vn annyan a|r|tat. a chyt a|hynny ny bu y tat a|r mab hep ganyat. ac
yrygtunt. a|honno yv yr yspryt glan. y|tat duv weithon ny ganet. ac ny doeth truy
neb namyn trudav e|hun. a|r yspryt glan. o|r tat ac o|r mab. velle y guelly baladyr yr heul yn dyuot
o|r heul ac o|r heul a|r paladyr. y|lleuuer. a|r gures. a|r tri hynn yssyd o|gyuoet. ac
The text Efengyl Ieuan starts on line 13.
« p 50r | p 51r » |