Llsgr. Caerdydd 1.362 (Hafod 1) – tudalen 21r
Brut y Brenhinoedd
21r
ỽrgant. Sef oed y enỽ. bartholomi. Ac erchi naỽd
idaỽ. A dywdut* a oruc y ry|deol o|r yspaen. Ac bot
ulỽdyn* a hanher yn crỽydraỽ y moroed yn keis+
saỽ lle y kyuanhedu yndaỽ. Ac erchi idaỽ ran yn
ufyd darystygedic o ynys prydein y chyuanhe+
du dan tragỽydaỽl geithiwet yr neb a uei vren+
hin arnei. kany ellynt diodef mordỽy yn hỽy
no hynny. A gỽedy gỽybot eu negys. truanhau
a wnaeth gỽrgant ỽrthtunt. Ac anuon kyua+
rỽydyt udunt hyt yn iwerdon a oed diffeith Ac
yna y rodes gỽrgant yr ynys honno yr gvydyl
yn gyntaf eiroet. Ac yna yd aethant hyt yn i+
werdon. Ac y kynnhydassant yr hynny hyt hedi+
ỽ. Ac yna y doeth gỽrgan y ynys prydein. Ac yno
y bu uarỽ. Ac y cladỽyt yg kaer llion ar ỽysc.
y lle ar daroed idaỽ ef y teccau.
A Gỽedy gỽrgan y doeth kuhelin y uab ynte+
u y* vrenhin. A hyt tra paraỽys y oes. yn
tagnouedus y traethỽys y teyrnas. A marcia
oed enỽ y wreic. A honno oe ethrylith a dechymy+
gỽys kyffreith. Ac alwei y brytanyeit kyffreith
marcia. Ar gyfreith honno a troes aluryt vrenhin
o gymraec yn saesnec. gỽedy marỽ
kuelyn y doeth y vrenhinyaeth yn llaỽ varcia a
seissyll y mab. kanyt oed ar y mab oet nam seith
mlỽyd pan vu varỽ y tat. Ac ỽrth hynny y gadỽ+
yt y vrenhinyath yn llaỽ y wreic. kans doeth
ethrelithrus od*. A gỽedy marỽ marcia y bu
vre·nhin seissyll. A gỽedy seissyll. y doeth kyn+
uarch.
« p 20v | p 21v » |