LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 180r
Ystoriau Saint Greal
180r
a|dialaỽd ar y ỻeidyr mỽyaf o|r a|oed yn ryuelu arnaf ac ar vyng
gaỻu. Eissyoes pei gỽypei y brenhin ual y buassei y damchwe+
in. ny chanmolei ef na|e vilỽryaeth ef na|e antur.
M Egys ˄y bydei y|brenhin diwarnaỽt yn bỽyta. a|r vrenhines ar
y neiỻ|laỽ. a ỻawer o varchogyon urdolyon gyt ac ef. eis+
syoes gỽalchmei nyt yttoed ef yno. nachaf vorỽyn ieuanc we+
dy disgynnv y ar y march yn|deckaf vndyn pettei esmỽythdra
arnei. ac yn|dyuot y|r neuad hyt geyr bronn y brenhin. ac yn
dywedut. Arglỽyd heb hi hanpych gỽeỻ y gan duỽ. a mi a|doethum
yma y erchi rod ytt. yr dy rym a|th uchelder. Duỽ a|ro kynghor
da ytt ar hynny heb y brenhin. a|minneu vy hun a ymyrraf ar
hynny. Yna yr vnbennes a|edrychaỽd ar y daryan a|oed yngcroc
yn|y neuad ar y golovyn. arglỽyd heb hi y geissyaỽ nerth y
doethum i yma. nyt amgen y geissyaỽ y marchaỽc urdaỽl bieu
y|daryan racko odyma. kanys anghenreit yỽ ym ỽrthaỽ. A
unbennes heb y brenhin os y marchaỽc a vynn hynny. diglỽyf
yỽ gennyf|i. Arglỽyd heb hi tebic yỽ gennyf y mynn. kanys mar+
chaỽc urdaỽl da yỽ ef. ac y|th eiryaỽl ditheu heuyt ny phaỻa ef
a|phettỽn|inneu yma pan|delei a·gatuyd ny|m nackaei. A|phei
kaỽssoedỽn i vy mraỽt y bum yn|y geissyaỽ yr ys|talym. mi a
gaỽssoedỽn kỽbỽl o|m nerth ac o|m|kyuoeth. ac am hynny y|mae
reit ymi vynet vy hun drỽy y periglussyon fforestyd. a|roi vyng
korff myỽn ỻawer o berigleu. am yr|hynn y dylyewch chwitheu
baỽp o·honaỽch tosturyaỽ ỽrthyf. A vnbennes heb y brenhin
miui a|rodaf ac a|wnaf a|bethyno* arnaf|i. Duỽ a|dalo ytt heb
hi. ac yna y perit idi eisted a bỽyta. a ỻawen vuwyt ỽrthi. A
gỽedy bỽyt y vrenhines a|e|duc y hystaueỻ drỽy lewenyd maỽr
« p 179v | p 180v » |