LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 15v
Mabinogi Iesu Grist
15v
ed yn ystudyaỽ y myỽn molyannev duỽ. ac a oleuhaei. hyt na thebygit y bot yn verch namyn
yn vaur y hoet. Kanys kynn brudet y ymrodei y wedieu a chynn bei deg mlỽyd ar hugein.
a| e hwyneb ac oleuhaei yn gyn egluret a breid y gallei neb kyuedrym yn y hỽyneb. Ymrodi
a ỽnaei yn y du. ac y wnneuthur gỽeitheu ny allei wraged yn yr oes yn eu gỽneuthur.
A hi a gynnhalaud y reol honn yn oet tynner heb y thorri. O| r bore beunyd hyt traean
dyd y guediei. o| r naỽuet eilweith yd aei y wediaỽ. yny ymdangossei yr agel idi yr hỽn
a rodei vỽyt idi. A gwellell o hynny allann y r dygronoes yn ovyn a charyat Duỽ.
Ac yn y diỽed guedy kymryt dysc o·honei y gan werydon oed hyn a mỽy no hi.
yn diruaỽr garyat daeoni y llauuryod yn y vei gyntaf hi yn y gỽyluaeu. a dyscedi+
gaeth yn doethineb kyureith. Ufuydach yn vfuydaut. adỽynnach yn y cantygleu.
karueidach yng| karyat Duỽ. glanach ym| pob gleindit. perffeithach yn y nerthoed.
Cadarn oed ac agkyffroedic yn y ffyd. A pheunyd gwellwell y kerdei yn y gleindit. ny|s
guelsei dyn eiroet hi yn llittyaỽ. nac yn dyỽedut geir druc eiroet. pob ymadra+
vd o| r a dyỽettei oed gyulaun o rat. yny ettỽeinit bot Duỽ yn y thauot hi. Y guedi
a chyssynededigaeth kyureith Duỽ y trigei. A goualus yg| kylch y chetemeithesseu oed.
rac pechu o| r vn yn| y hamadraud rac dyỽedut o| r vn geir vchel. na chỽerthin. a rac
daly syberuyt heuyt. neu dyỽedut druc ỽrth neb. Duỽ a volei heb deỽi. ym| pob
amadraud diolch a talei y Duỽ. yn y diỽed genti kyntaf y dysgỽyt. pan ressaỽ dyn
dyn arall. atteb. Duỽ a ro da ytt. Peunyd yd oed yn y phorthi yr yr hỽnn a gymerei o laỽ
yr agel. a| r hynn a delei ydi y gan wyr y temyl. y agkennogyon y rannei. Yn vynych y
gelynt egylyon yn ymdidan a hi. Ac yn ymadraud yn garedicaf. Pỽy bynnac hagen
o| r rei cleiuyon y rodi hi y laỽ arnaỽ. iach vydei. Yna knygyaud Abysachar offeireit y
rodyon amyl y esgyb y temel yr y rodi yn wreic o| e vab ef. Meir a dyỽot yna. Ny dichaun
hynny na chymryt o·honaf i. wr. nac o wr vynnev. Yna y dyỽat y gur pennaf. Duỽ a
dihỽyllir yn y meibon. ac yn yr etiuedyon a anrydedir. vab y bu eiroet ym pobyl yr Israel.
Ac yna y dyaỽt Meir vrthunt. Yn diỽeirdep gyntaf y molir duỽ. ac y anrydedir. kanys
kyn Abel ny bu wyryon neb. y offrỽm ef a ragaud bod y Duỽ. yr hỽnn ny ragaud bod
y Duỽ a| e lladadaỽd. Duỽ y goron hagen a gauas Abel. coron weryndaut. a choron tros
y aberth. Cany adaud llygredigaeth yn y gnaỽt. Ac velly y cauas Hely canys ketỽis
y gnaỽt yn wyry. Hynny a dysgeis. i. yn y temyl o mabolyaeth. a hynny a vedylyeis
ym callon na chymerwn vyth ỽr. Pan doeth y betuar vlỽyd ar dec. y dyỽedyssant gỽyr
y temyl o deuaỽt gureigaul na allei hi wediaỽ yn y temyl. Ac yna y caffat yg| kygor.
peri y| r holl dinessyd. a llỽytheu yr Israel. y trydydyd bop paỽb trỽy dyvyn yn y tem+
yl. Guedy dyuot yr holl boploed. y kyuodes Ysachar hyt y gradeu vchaf. val y gall+
ei paub y welet. a| e glybot. a gostec a rodet idaỽ. Meibon yr Israel heb ef. guerendeuch
vy geireu. i. yn da. Yr pan adeilaỽd Selyf y temyl honn. y buant merchet y brenhin+
ed a| r prophuydi. a| r offereit yn guediaỽ yndi. A phan doethant y oet deduaỽl
wynt a gymerassant wyr. a herỽyd y rei kyn nog ỽynt bodlaun vu Duỽ
vdunt. Y mae Meir e hun yn gỽneuthur creuyd neỽyd yr honn yssyd yn ym+
rodi y Duỽ yn wyry y tra vo byỽ. Ef a welit y ni bot yn iaỽn studyaỽ o·honam y+
gyt truy nerth Duỽ y geissau atteb y ganthaỽ. ar bỽy y rodit Meir o| e guarch+
adỽ. A| r ymadraud hỽnnỽ a ragaud y baup. a bỽrỽ coelbrenn ar holl lỽyth yr
Israel. Ac erchi y baup o| r a uei heb wreic idaỽ dyuot trannoeth y| r temyl. a guia+
len yn llaỽ bop vn. Velly y guaethpỽyt. A Iosep oed hynnaf o| r temyl y rỽg yr
rei heb wraged vdunt. A guedy rodi y gueelin yn llaỽ yr hynaf o| r temyl. yn+
teu a rodes y guyeil yn aberth y Duỽ. ac a erchis yr Arglỽyd gyghor. Yna y
cauas atteb y gan Duỽ. Dyro heb·y Duỽ y guyeil oll yn y cor. a gat yno hyt avory. a doent
avory y gyrchu eu guyeil. ac o vlaen vn o| r guyeil yd ehetta
colomen y| r nef. ac ar berchen y wialen honno roder Meir o| e chadu. Velly y gỽna+
« p 15r | p 16r » |