LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 3r
Delw'r Byd
3r
Rufuein a enwit y gan Romulus. Yn yr Eidal y mae gwlat a elwir Twscan. Ac yn honno y mae Camp+
ania ac Ampulia ac Vmbria gwlat a diegis rac dwfyr diliw. Ac yno y mae Etrusia a Longa+
barba rac hyt barveu y gwyr. Ac yno y mae Pandus auon yn yr Eidal ac y mae Venetica
Gallia. Remis o Apes yd aa parth a| r gorllewin gan ystlys y mor. Ac yno y mae Gallia
Bellica. A honno a daw o vynyd Iouis parth a| r duyrein hyt y|mor Brytaen. Ac yn honno y
mae Ffreinc a enwit y gan Ffrancus vrenin gwr a deuth o Tro y·gyt ac Eneas Ysgwydw+
yn. O honno parth a dwyrein Yspania ac Yberia ac Ysteria. Ac yn honno y mae seith
gantref Terragonia a Chartago a Llucitammia a Gallicia Betica Tyngnyttrania. Kyfar+
wyneb a| r Yspaen parth a| r gorllewin yn ynyssoed y mor y mae Britannia Aglia Hybernia
Thanatos a phrid y gwlat honno a lad nadred. Socia Tilie a gwyd y wlat honno ny wy+
wyant vyth eu deil. Ac yn honno y byd vj mis yn y dyd a vj mis yn y nos yn wastat.
Ac y tu hvnt y hynny nyt oes namyn mor diffeith. Affrica a gauas y henw y gan Affer
vn o lin Evream. Ac yn honno y mae Libia. A honno a daw o vynyded Catholvdomom hyt
y|mor Silenor. Odyna y mae Sireneica gwlat a phym dinas yndi Brenice Arsyone Tholomo+
ide Apholinia Cyrene. Odina y mae gwlat a thri dinas yndi Occasa a Berethe a Letpis
Vawr. Odyna Biscase gwlat a deu dinas yndi Adromeus a Biscancium. Odyna Zevtis yn hon+
no Cartago Vawr a Chartada dinas a distrywys gwyr Ruffein a wnaethpvyt yn y lle.
Wedy hynny Getulia; a Numidia ac yn honno y gvlledychwys Ygvrta. Ac yn honno
y mae dinas Ypone yn y bu Awstin yn escop. Odyna y mae Mauritinia ac yndi Stipa
a Cesarinensis. O hynny parth a hanner dyd y mae Ethiopia ac yn honno y mae caer
Sabba. Yn y rei y mae mynyded Gargara. Ac yn y rei hynny y mae ffynnawn kyn oeret
y dyd ac na eill neb y hyuet a chyn vryttyet y nos ac na eill neb mynet yn y chyvyl.
Ac yrwg y mynyded hynny a| r dvyrein y mae pobloed a elwir Trogadite a rei hynny
a dalyant anyueileit gvyllt o redec. Y tu hvnt y Ethiopia y mae lleoed mavr diffeith
rac gvres yr heul a llawer amraual genedyl sarphot ny|s atwen neb. Odyna y mae
Mor Mavr a hvnnv a dyvedir y vrydyon mal kallavr o wres yr heul. Yn eithaf Affric
parth a| r gorllevin y mae caer Gabes a wnnaeth Fenices ac a enwit y genthi Cadid+
inum mor. Ac yn y mor hvnnv y mae mynyd Atlans ac Atlas vrenin yr Affric a| e gvn+
naeth. Ac yn y mynyd hvnnv y gvnaeth ef keluydyt o| r ser a| r mynyd hvnnv a dy+
wedir y vot yn kynnal yr awyr. Weithon y dyvedun ynyssoed Mor Groec; y mae
Cepris a Phalpus a Chretus y mae yndi cant dinas. Aulidos yssyd yndi y|mor Helles yn Ev+
ropia a Chlocos. A chyuarvyneb a Groec yn y mor y mae pedeir ynys a deugeint. Vn yw
Rodos Tenedos Carpatos Tyteria Delos Ycharia Ynys Naaxon Anacos a Melos Ystorica kro+
n ynys Gromet a Pharon. Ac yn honno y keffir y marmor gwyn. A Sidon a Samon. Ac
o honno yd anoed Aphitagoras. Ac yno y keffir llestyr eres. A Scisilia a Trinaria. Ac yn
honno y mae mynyd Ethna a brwnstan yn llosci yndav. Ac yn y mor hvnnv y mae Silla
a Charibdis periglev. A Sardinia; ny vyd yndi na bleyd na sarph namyn vn anyueil gvyllt
megys adyrcob. A| r neb a vratho hvnnv a vyd marv. Ac yndi y mae llysseu tebic y| r pa+
lestyr a| r neb a| e hysso a leta y enev vegys dyn yn chwerthin. Yn honno y maent ffynn+
honev tvym medeginyaeth cleiuon. Corsica a Syrene. Ac Ebesus ynys yn yr Yspaen. Veg+
ys y mae y daear ym perued yr awyr velly y mae vffern ym perued y daear. A llydan yv obry
a chyuyg yv vry. A lle agheu y gelwir kanys eneiteu a dotter yndi a vydant veirv.
Ac yno Ystix auon vffern a y|Groec y| mae tristit. A Fflegeton auon arall. A llawer o boe+
nev yndi amryual. A| r dufyr yssyd eil defnyd. Ac yn y mor y kynullir ac yn auonyd
y dineir a thrvy y daear y gwehenir a thrwy yr awyr y teneir. A| r holl daear a rwym
a| r gwladoed a wahan. A| r eigaun y gelvir y lle dyfnaf. A| r llanw yn y weilgi a gerda
« p 2v | p 3v » |