LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 13r
Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth
13r
ballofuyant*. ac ar brenn diodefeint a|e crogant. ac a|e lladant. Ac
ny rymhaa hynny udunt dim. kanys y trydydyd y kyuyt o veirw ac yd ymdengys
y disgyblon. ac wynt yn edrych yd ysgyn y|r nef. ac ar y teyrnas ny byd diwed.
VIIWrth wyr rufein y dywot sibli. Y pymhet heul y bymhet lin arwydocca. ac yn yr oes
honno yd ethyl iessu deu bysgodwr o galilea. ac o|e briawt gyureith y dysc wy. ac
y dyweit. Ewch a|r dysc a gymerassawch y gennyf. dysgwch hwnnw y|r holl bobloed. a
thrwy dec ieyth a thrugein y darestygir yr holl genedloed. Y hwechet heul y
hwechet genedyl yw. a|r dinas hwn yma a wledychant teir blyned. Y seithuet heul
y seithuet genedyl vyd. ac y kyuodant ac y gwnant lawer o laduaeu yn daear gwyr
eurey yr duw. Yr wythuet heul yr wythuet genedyl vyd. ac y vegys yn digenedylu
y byd rufein. a|r gwraged beichawl a udant yn eu trallodeu a doluryeu. ac a
dywedant. a debygy di a esgorwn ni. Y nawuet heul y nawuet lin vyd. ac y
kyuodant gwyr rufein yn ormes ar lawer.
VIIIOdyna y kyuodant deu vrenhin o syria. ac eu llu ny ellir rif arnaw. moy nac
ar dywot y mor. Ac wynt a gynhalyant dinessyd a brenhinaetheu gwyr rufein. hyt
yg|kacedonia*. Yna y tywelltir amylder o|e waet. Y petheu hynn oll
pony coffawynt y dynassoed a|r kenedloed a ofnahant yndunt. ac a wahanant y|r dwyrein.
A gwedy hynny y kyuodant deu vrenin o|r eifft. ac a ymladant a phetwar brenhin.
ac a|e lladant ac eu llu. ac wledychant teir blyned a hwe|mys*. Ac wedy
hynny y kyuyt arall. c. y enw rackyuoethawc yn ymlad. yr hwnn a wledycha dec mlyned
ar hugeint. ac adeila temyl y duw. ac a eflawna y gyureith. ac a wna wironed yr duw
ar y daear. A gwedy y rei hynny y kyuyt brenhin arall yr hwnn a wledycha ychydig
o amsseroed. hwnnw y byd brenhin andon. ac o andon y daw. a. ac o. a. y daw. a. ac
o·honnaw ynteu. a. a|r eil kyntaf. a. a|vyd gwr ymladgar. a diruawr ryuelwr. Ac o|r.
a. hwnnw y daw. R. ac o|r. R. hwnnw y daw. l. ac y hwnnw y byd medyant ac un
vrenhinyaeth eisseu o ugein.IXAc gwedy y rei hynny y kyut salicus o fferinc. k. y henw.
hwnnw a vyd gwr mawr. a gwar. a chyuoethawc. a thrugarawc. A hwnnw a wna kyuyawnder
a gwironed ac aghenogyon. Kymeint vyd rat hwnnw yn|y wironed. a phan vo yn kerdet
y fford ac y gostygyant y gwyd eu blaenwed yn|y erbyn. a|r dwfyr yn|y erbyn ny wyrhaa.
kyffelyb idaw yn amherodraeth rufein kynnoc ef ny bu. ac ny daw rac llaw. Ac gwedy
ynteu y daw brenhin. l. y enw. gwedy l. y daw B. ac gwedy B. y daw xxx
a in. B. enw bop un onadunt. Ac o|r B. y daw. a. a hwnnw gwr aflonyd
vyd. katarnn yn ymlad. a llawer a gerda o vor a thir. ac ny cheiff y elynyon le llaw
arnaw. ac efe a|a vegys yn deholedic dieithyr y teyrnas. A|e eneit o|r diwed a|a y teyrnas
nef ar duw.X. Odyna y kyuoyt* gwr.V. y enw. ffarnc o|r neill parth. lwmbart
o|r parth arall. a hwnnw a vyd medyant idaw yn erbyn y elynyon. ac a ymladant ac ef.
ac yn y dydyeu hynny y daw brenhin. o. y enw. a hwnnw a vyd kyuoethoccaf a chadarnha.
ac a wna trugared y|r tlodyon. ac a varnn yn iawn. ac o hwnnw y daw. o.
arall mwyhaf y allu. ac adantaw ynteu y bydant ymladeu y|r cristonogyon a|r paganyeit.
a llawer o waet a dywelltir. A vijmlyned y wledycha. ac y nef yr aa y eneit. o hwnnw
y daw brenhin o. y enw. a hwnnw a beir lladuaeu. a gwr mawr y drwc. a heb ffyd yn
gwironed. a thrwy hwnnw y bydant llawr o drycoed. ac gwaet a dihwyllir yn amyl.
ac a·dan y allu ef y distrywir llawer o eglwysseu. yn y brenhinaetheu llawer o drallodeu
a vydant. Ac yno y kyuyt kenedyl yn|y teyrnas. a elwir capadocia. a theyrnas pampilia
a geithiwant. yn amsser hwnnw am nat yntredant drwy drws y dauatty. Hwnnw a wledycha
teir blyned. ac gwedy ynteu y daw brenhin. h. y enw. ac yn y dydyeu hynny ymladeu
llawer a vydant. ac ar samaria y ryuela. a brenhinaeth pentapolis a gyrcha. Y brenhin hwnnw a hanoed o genedyl
« p 12v | p 13v » |