LlGC Llsgr. 3036 (Mostyn 117) – tudalen 130
Brut y Brenhinoedd
130
taf a uu idaỽ ac ỽynt ar auon terwenhyd. Ar eil
a uu ar ryt epiffort. Ac yna yd ymgyuaruuant
kyndeyrn vab Gỽrtheyrn. A hors braỽt hengyst.
Ac y lladaỽd pop vn o·nadunt y gilyd. Y trydyd
ymlad a uu ar lan y mor. Ac yna y ffoes y saesson
yn wreigaỽl y|eu llogeu. Ac yd aethant hyt yn
ynys tanet y|geissaỽ ymgadỽ yno. Ac eissoes gỽ ̷+
edy eu damgylchynu o wertheuyr ac eu blinaỽ
o peunydyaỽl ymlad mal na ellynt y diodef. Sef
a|wnaethant anuon Gỽrtheyrn a|r uuassei ygyt
ac ỽynt ym pop brỽydyr yn porth udunt. hyt ar
wertheuyr y vab y erchi idaỽ canhyadu udunt vy ̷+
net y eu gulat yn|ryd. A thra yttoed yn kym ̷+
ryt kyghor ymdanadunt. Sef a wnaeth y saesson
kymryt eu llogeu ac adaỽ eu guraged ac eu me ̷+
ibyon a ffo hyt yn germania.
A Guedy caffel o wertheuyr y uudugolyaeth
honno; dechreu a|wnaeth ynteu talu y|pa+
ỽb eu dylyet a|r daroed y|r saesson y|dỽyn y arnadunt.
Ac enrydedu y|wyr a|chadỽ iaỽnder ac ỽynt. Ac y
gyt a hynny atnewydhau yr eglỽysseu. Ac eu han+
rydedu ỽrth gyghor garmon escob. Ac eissoes kyg+
horuynu a|wnaeth diafỽl ỽrth y|dayoni ef a|e gyfar+
chwel. A dodi yg kallon Ronwen y lysuam medỽl
y|geissaỽ ystrywyaỽ y agheu. A guedy medylyaỽ o+
honei pop ystryỽ. o|r diwed sef a|wnaeth rodi guen+
ỽyn idaỽ yn llaỽ vn o|e wassanaethwyr. A guedy kym+
« p 129 | p 131 » |