LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 20r
Mabinogi Iesu Grist
20r
uudyaỽ am hynny. Iessu a dyỽot vrthau yn ymdidangar. Dabre heb ef. a chyssylltun y pren+
neu a gogyhydun. Ioseph a wnnaeth val y herchis. canys gỽydat y gallei Iessu wneu+
thur yr hynn a vynnei. Ac wynt a kyssylldassant y guyd eu penneu y·gyt. a Iessu a tyn+
naỽd attaỽ y prenn byrraf. ac a| e gỽnnaeth yn gyhyt a| r hỽyaf. ac y dyỽat vrth Io+
seph. Gwnna dy weith. Ac velly y gwnaeth Ioseph mal y harchaud.
Eilweith yd erchis y bobyl y Veir. a Ioseph. anvon Iessu y| r yscol y dysgu llythyr. a her+
wyd gorchymyn hynafyeit. yna y dugant Iessur ar yr athro y dysgu ganthau dynyaỽl
geluydyt. a| r athro hỽnnỽ a dechreuod yn anhegar y dysgu. a dyỽedut vrthaỽ Dyỽet
.A. Iessu a dyỽot vrthau Dywet ti y mi yn gyntaf beth yỽ. B. a minhev a dywedaf y ti+
theu beth yỽ. A. Odyna yr athro yn llittyauc a treỽis Iessu. ac yn y lle yr hỽnn a| e
treỽis a fu varo. Y iessu a ymchuoelaud atref. ar y vam. Ioseph drỽy ovynn a elỽis att+
aỽ Meir vam Iessu. ac a dyỽot vrthi. Yn wir gỽybyd ty trist yỽ vy eneit. i. hyt ag+
heu. o achaus y mab. ef allei dyuot vn trỽy y lit a tharav y mab yn y vo marỽ. Meir
a| e hattebaud ac a dyỽot vrthau. A ỽr na chret ti a allel o hynn vot. namyn ti a elly
credu yn diogel. pỽy bynnac a| e hanvonnes ef y eni ym plith dynyon. ef a| e keidỽ rac
dynyon drycysbrydaul. ac yn y eno ef. ef a| e hamdiffynn rac pob drỽc.
Eilweith yr Ydeon a archassant y Ioseph. a Meir dỽyn y mab a| r athro a| e dysgei druy
hegaruch. Meir a Iosep rac ovyn creulonder bobyl a gogyuydaw eu
tywyssogyon offeireit. a| e dugant y| r yscol. ac yn gwybot na allei neb dyn rodi idaỽ dim dysc.
yr hỽnn yd oed gantaỽ o perffeithruyd keluydyt. a chỽbled o| r gỽybot y gan Duỽ e hun.
Pan doeth Iessu yr yscol ef a gyffroes o| r ysbryt glan. ac a gymerth y llyuyr o laỽ y
gỽr a dysgei y kyureith paub yn edrych. ac yn guarandaỽ. ef a dechreod darllein nyt petheu ysgri+
venedigyon yn eu llyureu wy. namyn yn yspryt Duỽ byỽ. megys y kerda raeadyr o| r ffynn+
aun. a| r ffynnaun yn trigyau yn gyfulaun. Ac velly yd oed yn dyscu y| r bobyl rinwedeu Duỽ
byỽ. a nerthoed yr holl gyuoethauc. yny dygỽydod yr athro y| r llaur gar y vronn. a| e
adoli. callonnev y niver a oed yn guarandaỽ arnaỽ yn diwedut a arneygyod. Pan gygleu
Iosep hynny dan redec ef a doeth ar Iessu rac ovyn marỽ yr athro. Pan welas yr athro ef. y dyỽat
vrthaỽ. Nyt dysgybyl a rodeist|i y mi namyn athro. pỽy a dichaun kynnal y eireu. Yna yd eflen+
wit a dyỽetpỽyt yn y sallỽyr. Avon Duỽ a efuleỽit o| r dyfred.
Gwedy hynny y doethant Meir a Iosep a Iessu hyt yn dinas a elỽIt Capharnaỽn drỽy arvor+
diret rac dryctet y bobyl a wyrthỽynnepynt vdunt. Guedy pressỽylaỽ o Iessu yno yn y dinas.
yd oed neb vn ỽr a elỽit. Iosep. a berthauc oed. A hỽnnỽ a oed niver vch y ben. ac ef yn varỽ.
yn ỽdaỽ ac yn gueidi. Iessu a dyot yna ỽrth Iosep y tatmaeth. Paham na rody di allu dy rat
y| r gỽr a fu varỽ. ac a oed vn enỽ a thi. Iosep a| e hattbeaud. Py allu yssyd y mi. neu pa vedyant
y rodi benffic rat y neb. Yna y dyỽot Iessu. Tynn y lliein yssyd am dy ben di. a gossot ar wyneb
y gỽr marỽ. a dyỽot Iessu a| th ellug. Ac yn diannot y kyuyt yn yiach o| e wely. Iosep yn y lle a ỽn+
aeth mal y gorychymynaỽd Iessu. Y ty y gỽr marỽ y doeth. A| r suder oed am y ben a ossodes am ben y gỽr
marỽ. ac yn y lle y kyuodes y gỽr marỽ o| e glafwely. ac a ovynnaud pỽy oed Iessu.
O dinas Capharnaum wynt a doethant hyt yn dinas Bethleem. Ac yna y doeth Meir a
Iosep a Iessu hyt yn ty Iosep a oed yn y dinas hỽnnỽ. A| e bressỽylua. Ac yr y ty y doethant.
A dydgueith y gelỽis Iosep attaỽ y mab hynaf. Yago a oed hỽnnỽ. ac yd erchis idaỽ
vynet y| r ard y gynnullaỽ caul y wneuthur bressych. A Iessu a doeth y·gyt ac ef heb w+
ybot y Veir ac y Iosep. A| tthra yttoed Iago yn kynullaỽ y caul. neidyr a| e brathod
yn y laỽ deheu. ac rac diruaỽr dolur. ef a leuaỽd. Ac ac ef yn diffygyaỽ drỽy wheruder
ymadraud. a dyỽot. Guae vy gỽae vi. y neidyr waethaf a| m brathaud y| m llaỽ. Iessu oed
yn seuyll ar y llaỽ arall pan gigleu ef Iago yn lleuein. y redaỽd tu ac attaỽ. ac y kymer+
th y laỽ yn y laỽ yntev. Ac ny wnaeth dim eithyr hwythu ar y laỽ. Ac yn diannot y
iachaaỽd y laỽ. ac y bu varỽ y sarff. A Meir a Iosep ny wydynt pa daroed. eithyr kly+
bot llef Iago. yny menegis Iessu vdunt.
« p 19v | p 20v » |