LlGC Llsgr. 3036 (Mostyn 117) – tudalen 137
Brut y Brenhinoedd
137
garu a|mi. Ac o|r diwed kytyaỽ a|mi trỽy vy hun. Am
hadaỽ yn veichaỽc. A gỽybydet dy prudder ti a|th do ̷+
ethineb arglỽyd vrenhin na bu imi eiroet a gỽr ach ̷+
aỽs namyn hynny. megys y|gỽyppỽn i bot tat idaỽ
ef amgen no hỽnnỽ. Ac enryuedu hynny yn uaỽr
a|wnaeth y brenhin. Ac erchi dỽyn meugant dewin
attaỽ. y ouyn idaỽ a allei hynny vot yn wir. A gue+
dy dyuot meugant yr lle a datganu idaỽ y gyfranc
honno. ynteu a dywaỽt y keffit yn|llyfreu y|doeth+
on. Ac yn llawer o istoriaeu. bot llawer o dyny+
on aryỽ anedigaetheu hynny udunt A pulenis
heb ef a dyweit pan traetha o duỽ ar seint bot ryỽ
genedyl o yspryt yn pressỽylaỽ y·rỽg y lleu·at a|r day+
ar. A rei hynny a alỽn ni dieuyl gogỽydedic. A ran yn+
dunt o|r dayar ac o dynaỽl anyan. A ran arall o any+
an egylyon. A phan y|mynhont y gallant kymryt
furyf dynaỽl a|e drych arnadunt a|chydyaỽ ar|gura+
ged uelly. Ac atuyd vn o|r rei hynny a doeth ar y wreic
da hon ac a|e beichoges pan gahat y|guas hỽn.
AC yna guedy guarandaỽ o vyrdin yr ymadrody+
on; nessau a oruc ar y brenhin ac adoli idaỽ. A
gofyn py achaỽs y|ducsit ef a|e vam hyt yno. Ac y+
na y|dywaỽt gỽrtheyrn ỽrthaỽ. vyn dewinyon
a archassant im keissaỽ mab heb tat idaỽ. Ac a|e
waet ef iraỽ y|gueith. Ac yuelly y dywedynt y se ̷+
uyll. Ac yna y dywaỽt myrdin; arglỽyd heb ef
par di dỽyn dy dewinyon rac vym bron i. A mi a
« p 136 | p 138 » |