LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 280r
Ystoriau Saint Greal
280r
Y trossyaỽdyr yssyd yma yn menegi y|r darỻeodron mae drỽc
a|doluryus yỽ ganthaỽ na|wybu pa|le yn|yr ynys honn yr
oed lys brenhin peleur. namyn hynn o|diwed ar yr ystorya
honn a hyspyssaf i y chwi. drỽy welet o·honaf inneu yn ỻyfrev
ereiỻ. Nyt amgen no Joseph yssyd yn tystolyaethu. mynet
paredur o|r casteỻ yn ryỽ amser. ac ny wybuwyt med ef o hyn+
ny aỻan vn geir y ỽrthaỽ y myỽn ystorya o|r|byt. ac y|mae
yn|dywedut trigyaỽ Joseph yn|y casteỻ a vu eidaỽ brenhin
peleur. a chaeu y casteỻ arnaỽ hyt na aỻei neb vynet
attaỽ y myỽn. heb vuched idaỽ onyt yr hynn a vynnei
duỽ y anuon idaỽ. Ac yno y bu ioseph yn hir o amser wedy
mynet paredur y|ỽrthaỽ. ac yno y bu varỽ ef. a|gỽedy y varỽ
ef y dechreuaỽd y casteỻ syrthyaỽ. Eissyoes y capel ny bu
waeth ef o|dim. namyn yn|yr vn mod y|trigyaỽd ef. ac
ueỻy etto y mae. Y ỻe hỽnnỽ a|oed beỻ y ỽrth dynyon. a
ỻe aruthur oed wedy y atueilyaỽ. A|r bobyl a|oed ar y tir ac
yn|yr ynyssoed nessaf idaỽ a|oed ryued ganthunt beth oed
yno. Ac yna ef a|doeth chwant y rei vynet y edrych beth
a|oed yn|y ỻe hỽnnỽ. ac ỽynt a|aethant ac ny doeth yr vn o+
nadunt drach eu kevyn. ac ny wybuwyt vn chwedyl vyth
y ỽrthunt. Y chwedleu hynny a|aethant y bob gỽlat. ac ny
lyuassaỽd neb wedy hynny vynet yno. namyn deu varch+
chaỽc o gymry y rei a glywssant ymdidan am hynny.
ac oedynt wyr ieueinc advỽyndec. a phob vn onadunt
« p 279v | p 280v » |