LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 67v
Ystoriau Saint Greal
67v
Pan|gigleu ynteu hynny ef a oỻyngaỽd y vorwyn y|r ỻaỽr. ac
a|ymchoelaỽd att bỽrt. kanys aruaỽc oed o|bop arueu namyn
o waew. a|thynnu y gledyf a|oruc. a|gostỽng y daryan o|e vlaen.
a bỽrt yna a|e trewis a gỽaeỽ yny hyỻ y daryan a|r ỻuric. ac
yny syrth ynteu y|r|ỻaỽr yn|y lewic. Ac yna bỽrt a|doeth att yr
vnbennes ac a|dywaỽt. mi a debygaf heb ef daruot dy rydhau
di y gan y marchaỽc racko. ac beth a vynny di ymi y wneuthur
mỽy. Arglỽyd heb hi canys gorugost di vy amdiffyn i hynn
anuon vi hyt y ỻe y|m duc i y marchaỽc o·honaỽ. Yna ef a
gymerth march y gỽr bỽryedic. ac a|dodes y vorỽyn y vorỽyn
arnaỽ. ac a|e duc hyt y ỻe yd erchis. Ac yna hi a|dywaỽt ỽrth
bỽrt. arglỽyd heb hi. gỽeỻ vu dy wassanaeth di noc y tebygy. ka+
nys pei|dygassit treis arnaf|i. ef a|goỻassit mỽy no phump cant
o eneidyeu yn|gynt noc yd iecheit ỽynt. Ac yna bỽrt a|ovynnaỽd
pa vn oed y marchaỽc. Yn|ỻe gỽir heb hi. keuynderỽ ym oed. ac
ny ỽn i pa|ryỽ brofedigaeth kythreul a|beris idaỽ ef vyn|dwyn i
ual hynn y|m gỽaradwydaỽ. A|phan yttoedynt ỽy yn ymdidan
ueỻy nachaf mỽy no deudec marchaỽc urdaỽl gỽedy eu bot
yn keissyaỽ y vorỽyn. Ac yna hitheu a adolygaỽd y|r marcho+
gyon vot yn ỻawen ỽrth vỽrt. ac ỽynteu a|wnaethant idaỽ y
ỻewenyd mỽyhaf ac aỻyssant. ac a|geissyassant ganthaỽ tri+
gyaỽ y·gyt ac ỽynt. ac ynteu yna a|dywaỽt arglỽydi heb ˄ef nyt
oes fford ym y drigiaỽ. kanys nyt oes yn vyỽ onyt duỽ a|wy+
po vyng|coỻet am drigyaỽ yn|gyhyt ac y trigyeis. A phan
glywssant ỽynteu hynny. nyt ymbilyassant ac ef mỽy. ac y+
na yr vnbennes a|adolygaỽd idaỽ dyuot y ymwelet a hi pan
« p 67r | p 68r » |