LlGC Llsgr. Peniarth 9 – tudalen 39v
Ystoria Carolo Magno: Can Rolant
39v
*ODyna y doyth beligant gỽr enrydedus yn
gennat y gan varsli ar charlymayn y erchi
idaỽ dyuot attaỽ ac ynteu a gymerei vedyd ac
a ystygei o|y bendeuigayth ef. Ac yna y gouyn+
aỽd charlymayn y gyghor a welỽch i vot
yn iaỽn kymryt marsli yr hỽn yssyd yn
adaỽ drỽy krist a|mihagel kymryt bedyd
a daly y danaf|inheu y dyernas* o hyn allan.
A phan daruu yr brenhin teruynu y ymad+
raỽd. Rolond a gyuodes y vynyd y atteb idaỽ
herwyd y gỽydyat ef. Pỽy|bynhac a tỽyllo
vn weith ef a tỽyll eilweith os dichaỽn a hỽn+
nỽ a obryn y dỽyllaỽ a gretto eilweith y tỽyll+
ỽr y brenhin ardyrchaỽc dosparthus na
chret ti y varsli yr hỽn yssyd prouedic ys lla+
wer o amser y vot yn dỽyllỽr. ac nyt ayth
etwa o|th gof di y tỽyll a oruc of* iti pan do+
ythost gyntaf yr yspayn. llawer o gedernit
a distryỽssut ti yna. a llawer o|r yspayn a du+
gassut ti attat ar vn gennadỽri honno a
anuonassei varsli attat ti yna. Ar vn peth
hỽnnỽ a edewis yr anffydlaỽn y wneuthur.
yna ti a anuoneist yna attaỽ deu o|th wyr+
da y gymryt diheurỽt gantaỽ vadeu o|th i*
wyrda y gymryt diheurỽyd gantaỽ rac am
hynny nyt amgen basin a basil ac ef a ber+
is y brenhin enwir eu dihenydu pa beth ys+
syd iaỽnach weithyon no·gyt na chretter
idaỽ y may etwa galanas y gỽyr hynny
The text Ystoria Carolo Magno: Can Rolant starts on line 1.
« p 39r | p 40r » |