Llsgr. Caerdydd 1.362 (Hafod 1) – tudalen 45v
Brut y Brenhinoedd
45v
medỽl a llad y brenhin. A gỽedy darffei hyn+
ny. medylyaỽ a wnaeth mae haỽd a oed idaỽ
gaffel y vrenhinyaeth yn|y laỽ e hun gỽedy
hynny. A gỽaỽd a wnaeth gỽrthyrn cant mar+
chaỽc yn wyr yr brenhin or yscotteit ac o|r
effichteit. ac eu anrydedu a wnaeth udunt o eur
ac aryant a meyrch a dillat hyny yttoydynt
ỽynteu yn|y gymryt yn lle brenhin. Ac yna
y kenynt ỽynteu gywydeu idaỽ ar hyt yr
y holyd* y fford y kerdynt. Gỽrtheyrn yssyd
teilỽg o amherodraeth a theyrwyalen* ynys
prydein. A chonstans yssyd anheilỽg. Ac o|r
diwed gỽedy kaffel gỽybot o ỽrtheyrn ry|gaf+
fel eu karyat yn llỽyr; Gỽedy eu medwi nos+
weith y dywaỽt gỽrtheyrn ỽrthtynt y uot ef
yn adaỽ ynys prydein y geissyaỽ kyuoeth a uei
uỽy yn lle arall. kany allei ef herwyd y dywe+
dei kynhal dec marchaỽc a deugeint yn diwall
o|r bychydic kyuoeth a oed idaỽ ef. A gỽedy dy+
wedut ỽrthtunt kymeint a hynny mynet
parth a|e letty a wnaeth yn trist; Ac eu adaỽ
ỽynteu yn y neuad yn yuet. A gỽedy gỽelet
o|r effichteit hyny; tristau a wnaethant ỽyn+
teu yn vỽy noc yd haỽd y credu; a thebygu
pan yỽ pruder a dywedassei ỽrtheyrn ỽrthtunt
a dywedut a|wnaethant y·rydunt pa achaỽs
na ladỽn yr atuanach hỽn; megys y kaffo
gỽrtheyrn gỽedy hynny cadeir y teyrnas. Pỽy
a dyly brenhinyaeth yn well noc ef; ar gỽr an+
« p 45r | p 46r » |