LlGC Llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth) – tudalen 129v
Ystoria Titus, Ystoria Bilatus
129v
a|e dodi y myỽn baril brenn. a|e dỽyn o·dyno y le y bei wele+
digaeth gan duỽ y lehau. ac auon redegaỽc ysglyfyat a|e
duc ym|peỻ y ỽrth y dinas. ac yng|kanaỽl y dỽfyr yd oed
garrec amryffleu yn rannu y|dỽfyr o bop parth idi. Ac y+
no y gorffowyssaỽd corff pilatus. kanys ymagori a|oruc y
garrec ac erbyn y corff yndi. Nac ody vry nac ody obry y
tramỽyho ỻongeu yno y tu araỻ y kerdant rac eu bodi
o|r dỽfyr hỽnnỽ o enwired pilatus. ac eu|tynnu y waelaỽt
yr|hỽnn y maent yn|y ovynhau yr hynny hyt hediỽ. ~ ~ ~
ỻyma ual y|treythir o ystorya pilatus o ynys bont.
Y *N yr amseroed gynt yd oed vrenhin eres y enỽ. ac
a vu achaỽs knaỽtaỽl y·ryngthaỽ a morỽyn. sef oed
y henỽ pila. ac a|oed verch y uelinyd a elwit atus. Ac o honno
y bu uab y|r|brenhin. a|e vam a|gyuansodes enỽ y mab o|e henỽ
e|hun ac enỽ y that. ac a rodes arnaỽ pilatus. A gỽedy y vot
ef yn deirblỽyd yd anuones pila ef att y brenhin y dat. Ac
yna yr oed uab araỻ y|r brenhin o|r vrenhines a|oed ogyfoet ha+
each a philatus. A gỽedy eu dyuot eỻ deu y·gyt yd oed anha+
ỽd eu|dosparth. kanys amrysson yn vynych a|wneynt o
daflu a bỽrỽ maen. a|chayntach a|wnaei bob vn o·honunt a|e
gilyd. Ac eissoes ual yd oed vonhedigach y mab dedyfaỽl no|r
mab andedyfaỽl o|r ragor hỽnnỽ yd oed wychach ynteu ym+
pob gỽare. Ac yn|hynny y hỽydaỽd pilatus o|gynghoruynt
ỽrth y vraỽt. a than gel ỻad y vraỽt a|oruc. A phan doeth hyn+
ny att y brenhin dolur uu ganthaỽ. a gỽedy hynny galỽ y
gyngor a|wnaeth attaỽ y ovyn pa|beth a|wnelei am y|ỻofrud
ysgymun hỽnnỽ. Paỽb onadunt a anogynt y dihenydyaỽ.
The text Ystoria Bilatus starts on line 11.
« p 129r | p 130r » |