LlGC Llsgr. 3036 (Mostyn 117) – tudalen 243
Brut y Brenhinoedd
243
y ewythyr a|e dienrydedu. Ac achwanegu y ymadra+
ỽd a oruc heuyt yn| y wed hon. ỽrth y lỽ. Y llu a welỽch
chwi raccỽ yn aỽch herbyn o amryual ynyssed yd he+
nynt. Ac aghyfrỽys ynt ar ym·lad. A chwitheu kyn+
euin yỽch o dysc peunydyaỽl ymlad. Ac ỽrth hynny
ny allant gỽrthỽynebu iỽch na seuyll yn aỽch her+
byn. A guedy daruot udunt annoc eu lluoed o pop
parth. Ar hynny ymgymyscu a| wnaeth y bydi+
noed a dechreu ymgymynu. A chymeint uu yr
aerua o pop parth yna A hyt pan yttoed y rei byỽ
yn ynuydu gan gỽynuan y rei meirỽ mal yd
oed truan a doluryus y datganu nae yscriuenu.
kanys o pop parth y brathei y guyr. Ac y brethit
ỽynteu. Ac y lladei y gỽyr ac y lledit ỽynteu.
A Guedy treulaỽ llawer o|r dyd yn| y wed hon+
no; kyrchu a| wnaeth arthur a|e vydin me+
gys lleỽ dywal newynaỽc y uydin y guydiat
bot y bratỽr tỽyllỽr anudonyl gan vedraỽt yscy+
mun. Ac agori ffyrd ar cledyueu udunt. A guneu+
thur aerua antrugaraỽc o·nadunt. Ac ar y ruthur
honno y llas y bratỽr gan vedraỽt. A llawer o uily+
oed ygyt ac ef. Ac yr hynny eissoes ny ffoes y lleill.
namyn kynhal eu brỽydyr yn ỽraỽl tra allassant
seuyll. Ac yna y bu y urỽydyr galetaf o|r a uu eiroet
yn ynys prydein na chynt na guedy. hyt pan dy+
gỽydassant yr holl tywyssogyon o pop parth. Ac
ỽynt ac eu bydinoed. Ac o parth medraỽt y llas;
« p 242 | p 244 » |