LlGC Llsgr. Peniarth 32 (Y Llyfr Teg) – tudalen 247
Ystoria Adda
247
Ac a|vydynt defnyt y wir groc. Ac y|duc y ga ̷ ̷+
russalem trỽy lewenyd maỽr. ac y medylyaỽd
py le diogelaf y gaỻei eu plannu. ac y dodes y nos
honno ỽynt y myỽn pỽỻ yn|y daer. kanys trannoth
y darparai ef eu plannu yn ryỽ le. ac y gossodes
gỽercheitweit y nos honno y|eu kadỽ vrth leufer
Eissoes nerth duỽ a|wnaeth y|r gỽyal hynny gỽrei ̷+
daỽ y|myỽn y pỽỻ hỽnnỽ. hyt pan yttoedynt eỻ teir
yn vn pren. A bore pan doeth y brenhin y kawas
gwedy gỽreidaỽ ygyt. A phan welas ef yr amry+
fedaỽt hỽn y dywat. teilỽng imi a chyfiaỽn y
anrydedu o|m da i. Odyna y hedewis ef yno kan
tebygei ef mynnu o duỽ y trigyaỽ yno o achaỽs
yr anryfedaỽt gỽneuthur o|r teir gỽyalen. yr vn
Ac yno y bu y pren hỽnnỽ yn tyfu deu vgeint
mlyned. Ac odyna y peris y brenhin dodi kylch
aryant pob blỽydyn am·dan y pren megys y
gaỻei gỽybot py veint y tyfei y pren yn|y ulỽdyn*
Ac veỻy y gỽnaeth y brenhin hit pen dec
mlyned ar|hugeint. Gỽedy hynny pan wnaeth
dauyd proffỽyt y pechaỽt maỽr. Ac yd oed var
duỽ arnaỽ am wreic uri. Ac yd oed yn dechreu
gỽneuthur y benyt. dan y pren hỽnnỽ. Ac yna
y gỽnaeth ef y Miserere. A|phan daruu ydaỽ wneu ̷ ̷+
thur y saỻỽyr. yna y dechreuaỽd ef adeilat tem ̷ ̷+
hyl y|r arglỽyd pump mlynet ar|hugeint yr
« p 246 | p 248 » |