LlGC Llsgr. Peniarth 45 – tudalen 126
Brut y Brenhinoedd
126
AC yna pan welas Gortheyrn nat oed a all+
ei yn|y erbyn; Sef a|wnaeth ef Gwisgaỽ
coron y teyrnas am y penn e|hun a goresgyn y
tywyssogyon ereill. Ac gỽedy clybot y urat+
ỽryaeth honno ym pob lle. Sef a wnaeth gỽyr
yr ynyssed duunaỽ ar ryuelu ar Gortheyrn
Canys y fichtyeit oed lidyaỽc am ry lad eu
kytuarchogyon ar parassei Gortheyrn eu di+
henydu am yr lad ohonunt wynteu constans
urenin. uab Custennin uendigeit. A diruaỽr of+
al oed ar Gortheyrn o|e uot yn colli y wyr trỽy
peunydaỽl ymladeu. Ac o|r parth arall ouyn
Emreis wledic ac uthur pendragon Canys tray
gilyd a|doi attaỽ y dywedut eu bot yn dyuot a
llyghes gantunt y oresgyn. Ac y dial angheu
constans eu braỽt arnaỽ.
AC yn|yr amser hỽnnỽ nachaf teir llong
hir yn disgynnu yn sỽyd geint yn llaỽn
o uarchogyon aruaỽc. A deu ỽr yn deu broder
yn tywyssogyon arnadunt. Sef oed eu henỽ.
Hors a hengist. Ac yna yd oed Gortheyrn yn
dinas a|elwit dorobern. Sef yỽ hỽnnỽ kaer
geint. A chennadeu a|doeth at Gortheyrn y
uenegi idaỽ ry dyuot y kyfryỽ wyr hynny
y myỽn llongeu hiryon. A rodi naỽd udunt
a wnaeth Gortheyrn. Ac erchi eu dỽyn attaỽ.
« p 125 | p 127 » |