LlGC Llsgr. 3035 (Mostyn 116) – tudalen 141r
Brut y Brenhinoedd
141r
y|r dỽywaỽl orchymyn a dothoed attaỽ. Ac anuon Juor y
vab ac yn·yr y|nei y lywyaỽ gỽediỻon y brytanyeit a dri+
gyassynt yn yr ynys rac diffodi o gỽbyl yr hen teilygdaỽt
A c yna yd ymedewis katwaladyr [ eu dylyet ~
a|phob peth bydaỽl Yr karyat duỽ yn dragywydaỽl.
Ac yd aeth hyt yn rufein. A gỽedy y|gatanhau* o
sergius bab ef o deiffyfyt* glefyt y|chlefychỽys A|r deu+
decuet dyd o vei y bu varỽ Ac yd aeth y|neuad nefaỽl
teyrnas. ỽyth mlynet a|phetwar|ugeint a|chỽechant
gỽedy dyfot crist yg|knaỽt dyn. ~ ~ ~ ~ ~
A gỽedy kynuỻaỽ o juor ac ynyr logeu ỽynt a gytym+
deithocassant attanadunt yr hyn mỽyaf a aỻassant
Ac y deuthant y ynys. prydein. Ac ỽyth mlyned a deu·gein
y|buant yn dywal yn ryfelu ar y|saesson Ac ny|maỽr
dygrynoes vdunt hyny kanys y racdywededic varwo+
laeth a|newyn A|r gynefodic teruysc yrydunt e|hunein
a|wanhayssei y bobyl syberỽ yn gymeint Ac na eỻynt
gỽrthỽynebu y eu gelynyon. kanys neur daroed vdunt
dirywyaỽ hyt na eiỻt elwit ỽynt brytanyeit namyn
kymry. Gan dynu yr enỽ hỽnnỽ y|gan waỻaỽc tywysaỽc
neu ynteu y|gan waỻwen vrenhines. neu ynteu y gan ag+
hyfyeith genedyl. yn troi yr enỽ veỻy. Ac eissoes kywrein+
ach y|gỽneynt y|saesson gan gadỽ eu duundeb a|thagnefed
yrydunt. Ac yn diỽhyỻaỽ y|tired Ac yn a·deilat y|dinassoed
a|r|kestyỻ Ac veỻy gỽedy bỽrỽ arglỽydiaeth y brytanyeit
y|ar·nadunt. Yn aỽr yn medu hoỻ loegyr Ac edelstan yn
dywyssaỽc arnunt yn gyntaf o|r saesson a wisgỽys coron
ynys. prydein. Ac o hyny aỻan digenedylhau a wnaeth y kymry
y ỽrth vrytanaỽl voned a|theilygdaỽt. hyt na aỻassant
byth gỽedy hyny enniỻ teilygdaỽt y teyrnas namyn
« p 140v | p 141v » |