LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 20r
Ystoriau Saint Greal
20r
yng|karyat iessu grist noc araỻ. ac na aỻei digỽydaỽ
vyth y|myỽn pechaỽt. a|thitheu pan|weleist y ỻythyr ef
a|vu ryued y gennyt. Ac yna y doeth dy elyn ac y|th drewis
ditheu ac vn o|e gỽareleu. a|ỻyna itti a|pha vn. a balchder.
kanys yna y medylyeist di vynet y|r fford yr oedit yn|y gỽ+
ahard ragot yn vỽy dy obeith di yn|dy nerth dy hun. noc ̷
yn nerth iessu grist. ac ueỻy y|th somet ti. Kanys y ỻythyr
a|oedynt yn dywedut ac yn|deaỻ milwryaeth nefaỽl. a thi+
theu a|e|dyeỻeist y vydaỽl. o|r achaỽs y syrthyeist myỽn
balchder. ac y pecheist yn varỽaỽl. A|phan ymwaheneist di
y ỽrth galaath y|th gafas y gỽas drỽc ac a|aeth ynot. Ac y+
na ef a|uv ry vychan ganthaỽ a gafas o wrogaeth arnat
ony bei syrthyaỽ ohonat y myỽn pechaỽt araỻ. ac ueỻy o|r
pechaỽt y gilyd yny|th vỽryei y uffern. Yna ef a|baratoes
geir dy vronn coron o eur. ac yr aỽr y gỽeleist ditheu hi
ti a|e chwenycheist. ac yn|y pỽngk hỽnnỽ ti a syrthyeist
yn|yr eil pechaỽt. Nyt amgen no chwant y|r byt. A|phan
weles ynteu ry daruot ytti syrthyav yn|yr eil pechaỽt o·ble+
gyt kymryt y goron. Yna ef a|aeth y|myỽn marchaỽc
urdaỽl araỻ pechadur yr hỽnn a|th anafaỽd ditheu. A
phany|bei ymgroessi o·honat o|r bla en. ef a|th ladassei. Eis+
syoes duỽ a|adaỽd dy anafu di hyt yn agos y anghev
rac ymdiryet ohonat vnweith araỻ y|th gorff yn vỽy noc
idaỽ evo. ac yr|y adnabot ef ohonat ef a|anuones duỽ ytt
nerth. nyt amgen no galaath. yr hỽnn a|oruu ar y deu var+
chaỽc urdaỽl. y rei a|eỻir eu kyffelybu y|r deu bechaỽt y|syr+
thyeist di yndunt ~
« p 19v | p 20v » |