LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 62r
Ystoriau Saint Greal
62r
y chỽi y rei yssyd myỽn pechaỽt marỽaỽl o·honaỽch nat
enniỻ ef dim yn|y bererindaỽt honn o·nyt a|enniỻo o geỽilyd.
Ac yr aỽr y dywaỽt ef hynny ỽynt a|aethant ymeith. A gỽedy
peỻau ohonunt ef a|alwaỽd y gỽr da ar walchmei. ac a|dywa+
ỽt. Gỽalchmei heb ef y mae talym yr pan y|th wnaethpỽyt
ti yn varchaỽc urdaỽl. ac yr hynny hyt hediỽ ny eỻeist di
wneuthur hayach o wassanaeth yr dy greaỽdyr. ac yd ỽyt
beỻach yn hen brenn heb na|deil na ffrỽyth arnat. ac am
hynny medylya weithyon am rodi y prenn a|r risc y iessu
grist. kanys rodeist y blodeu y|r kythreul. Arglỽyd heb y gỽal+
chmei pei caffỽn j o ennyt ymdidan a|thydi. mi a|ymdidan+
ỽn. a|m kedymdeith yssyd yn marchogaeth yn|ffest. ac am
hynny reit yỽ ym vynet yn|y ol. A gỽybyd di yn|ỻe gỽir pan
gaffỽyf i gyflỽr gyntaf y dyuot. mi a|deuaf y ymdidan a thi.
Ac yna ymwahanu a|orugant. a gỽalchmei ac ector a varch+
ocayssant yny vu nos. Ac yna ỽynt a|doethant y ty fforestwr
yr hỽnn a|vu laỽen ỽrthunt. Trannoeth y bore ỽynt a gerdas+
sant ymeith. ac ỽynt a vuant yn|kerdet ueỻy heb gael neb ryỽ
antur. Yma y|mae yr ymdidan yn|tewi am·danunt ỽy ac yn|tra+
ethu y ỽrth bỽrt ~ ~ ~
G wedy kychwyn bỽrt y ỽrth y gedymdeithyon. ac y
wrth laỽnslot. ef a varchockaaỽd hyt am bryt naỽn
Ac yna ef a|gyfaruv ac ef gỽr prud a|diỻat crevydus ym·danaỽ
ac yn marchogaeth assen. heb neb y·gyt ac ef. Ac yna bỽrt a
gyfarchaỽd gỽeỻ idaỽ. a|r gỽr mỽyn a|e hattebaỽd yn oreu ac y
gaỻei. ac a adnabu mae marchaỽc urdaỽl anturyus oed. ac
« p 61v | p 62v » |