Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 274r
Amlyn ac Amig
274r
1097
hỽnnỽ. ymdiret a|wnaeth amlyn idaỽ yn
gymeint ac adef yr ansaỽd a|r tro a|oed
y·ryngthaỽ a merch y brenhin. Ac ual
yd oed amlyn dydgweith yn rodi dỽfyr
y ymolchi y|r brenhin; y dywaỽt y twyỻ+
ỽr bradỽr gan ardric ỽrth y brenhin yn|y
mod hỽnn. Na|chymer arglỽyd vrenhin
wassanaeth o|r byt y|gan amlyn vradỽr.
y|gỽr a|wnaeth kewilyd itt ac y|th teyrnas
a gỽneuthur dy vn verch o vorwyn yn
wreic. Ac yna y kymerth amlyn kewi+
lyd maỽr. ac ovyn yn gymeint ac na aỻei
dywedut. a syrthyaỽ rac braỽ a|wnaeth.
A|gỽedy y|r brenhin trugaraỽc gỽelet hynny
y gyuodi a|wnaeth. ac erchi idaỽ yn wra+
ỽl ymdiheuraỽ os gaỻei. a|dangos y vot
yn|wirion. A gỽedy y gyuodi y dywaỽt
ỽrth y brenhin. Y trugarockaf o|r bren+
hined y|gỽr yssyd gynnefodic ganthaỽ
dileu enwired a|chanmaỽl kywirdeb. y
gỽr ny eỻir y drossi y ỽrth gywirdeb. nac
yr ovyn nac yr karu nac yr gobyr nac
yr gỽerth. mi a|adolygaf y|th enryded di
na chretych ymadrodyon ardric vradỽr.
namyn gat ym oet y aros vyg|kynghor
ual y gaỻwyf ym·gadarnhau rac dy vronn
di y dangos gỽirioned drỽy rodi vyng
corff yn|y erbyn. a|dangos y vot yn gelw+
ydaỽc yng|gwyd dy|lys a|th gynghor di.
Ac oedi a|oruc y brenhin. Ac erchi udunt
erbyn pryt naỽn drannoeth dangos pỽy
a uei ar yr iaỽn. Yd|oed ygyt ac ardric
herbet iarỻ yn|y ganmaỽl. Ac yna trista+
u yn uaỽr a|oruc amlyn rac hyt yd oed a+
mic y gyueiỻt yn trigiaỽ. y gỽr y kaf+
fei ef gynghor y ganthaỽ ympob go+
vit. A gỽedy gwelet o ildegart vrenhi+
nes nat oed neb a ymyrrei ygyt ac ef.
dyuot a|wnaeth att y brenhin. ac erchi
idaỽ oed dyd teruynedic y amlyn y|aros
1098
y gynghor. ac ony bei baraỽt yn|yr oet teruy+
nedic ỽrth weledigaeth y brenhin a|e gyng+
hor. na chaffei hi byth dyuot y vn gwely
a|r brenhin o hynny aỻan. a|e hadolỽyn a
gauas hi yn|ỻawen. ac yna y kerdaỽd am+
lyn yn diannot racdaỽ y geissyaỽ y gyng+
hor. ac megys yd oed yn|kerdet. nachaf a ̷+
mic a|e gedymdeithyon yn|kyuaruot ac
ef. ac yn mynet parth a|ỻys y brenhin.
Ac ual y|gwelas amlyn ef. disgynnu a|w+
naeth. a gostỽng ar|benn y|lin ac erchi
naỽd idaỽ a|thrugared. a|datkanu o|r dechreu
hyt y diwed y gyfrangk pa|wed y|daroed
idaỽ yn erbyn y gynghor ef traethu merch
y brenhin. a pha wed yd oed dyd teruyne+
dic y·ryngthunt trỽy eiryaỽl y vrenhi ̷+
nes. ac yna trỽy vỽrỽ uchenedyeu praff.
a geỻỽng dagreuoed hidleit. yd erchis am+
lyn idaỽ vynet ygyt ac ef y|r|coet yr oedynt
yn seuyỻ yn|y ymyl. ac adaỽ yno eu kedym+
deithyon. A|gỽedy eu|dyuot yno y|dirge+
lỽch y coet. y gerydu yn vaỽr a|wnaeth a+
mic am ysgaelussaỽ y gynghor. ac erchi
a|wnaeth idaỽ newidyaỽ gỽisc a march ac ef
ual y gaỻei ef yn gyntaf peth mynet tu
a|e|lys ef att y wreic briaỽt. Ac ynteu a|aei
parth a ỻys y brenhin y gynhal oet y
dyd a|oed y ymlad rỽng amlyn ac ardric
iarỻ. a thrỽy nerth duỽ y oruot. Ac yna
y dywaỽt amlyn ual hynn. Y kywiraf
o|r kedymdeithyon. pa ansaỽd yd|af|i y|th
lys di o·herwyd na|m hatwaen dy wreic
na neb o|niuer dy lys. Dos ragot heb·yr
amic. ac amovyn am vyng gwreic a|m
tylỽyth. a|thi a geffy gyfarwydyt yn ha+
ỽd. a|cheis ymoglyt yn gywir na wne+
lych gewilyd ym am vyng gwreic.
Ac yna yd ym·wahanyssant. amic
parth a ỻys y brenhin y rith amlyn.
ac amlyn tu a|ỻys amic yn rith amic.
« p 273v | p 274v » |