Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 274v
Amlyn ac Amig
274v
1099
A phan doeth amlyn tu a ỻys amic. dyuot a|w+
naeth y wreic yn|y erbyn drỽy diruaỽr lewenyd.
a|thebygu y mae y gỽr priaỽt oed a mynnv
mynet dwylaỽ mynỽgyl idaỽ. ac yd erchis
ef y|r arglỽydes na|s|kussanei. o·herwyd nat
oed hyfryt ganthaw y|uedỽl am a|datkanys ̷+
sit idaỽ ar y fford. Ac yr hynny erchi a|oruc
hi idaỽ ef bot yn hyfryt. o·herwyd bot yn
hyspys genthi y deuei dibendaỽt da o|r chwe+
dyl hỽnnỽ. A|r nos honno yd aethant y
gysgu y|r vn gỽely. ac ual y|doethant y|r
gỽely. y|dodes ef y|gledyf yn noeth y·ryng+
thaỽ ef a hi. a dywedut ỽrthi. o nessaei hi
attaỽ ef yn nes no hynny y|ỻadei y phenn.
Ac ueỻy y buant beunoeth yny doeth ken+
nat amic yn dirybud nossweith attunt
y|r ystaueỻ. y edrych pa wed yd oedynt yn
kadỽ kywirdeb ac ef am y|wreic. Chwed+
yl amic ynteu o|r|tu araỻ vu y|dyuot yn
rith amlyn parth a ỻys y brenhin. erbyn
yr oet teruynedic a|oed y·rydaỽ ac ardric.
a diruaỽr lewenyd a|gymerth y vrenhines
pan y gwelas. Ac yna y doeth ardric guhudỽr
att y brenhin ac y dywaỽt na|dylyei y vren+
hines vyth dyuot y vn wely a|r|brenhin am
duunaỽ o·honei ac amlyn am y merch. Ac
yna y dywaỽt amlyn ỽrth y brenhin yn|y
mod hỽnn. Y kyfyaỽnaf o|r brenhined y gỽr
yssyd gynneuodic ganthaỽ ostỽng enwi+
red kedyrn. a nerthau a|ch˄anmaỽl kywir+
deb tlodyon. mi a|dangossaf y|th enryded di
vy|mot i hediỽ yn|baraỽt drỽy nerth duỽ
y dangos bot ardric yn|dỽyỻỽr kelwydaỽc.
a|m|bot i a|r|urenhines a|e merch yn wirion
a|hynny trỽy ymlad ac ef. Ac yna y dywaỽt
y brenhin trugaraỽc ual|hynn. arglỽyd
iarỻ heb ef byd lawen kanys os|budugoly+
aeth a|ryd duỽ ytti. o|r gỽr racko ual y|mae
tebic gennyf|i. Mi a|rodaf belisent vy mer˄ch
yn|briaỽt itt. a|thywyssogaeth byrgỽynn
1100
ygyt a hi. A|r bore drannoeth y gỽisgassant
ymdanunt arueu trỽm estronaỽl. Ac y
doethant racdunt y|r maes yng gỽyd
brenhin freinc. a ỻỽyrwys y hoỻ deyrnas
o veibyon gỽyrda a rianed. y edrych ar|yr
ymlad. A|r bore y|dyd hỽnnỽ yd aeth y vren+
hines hi a|rianed y deyrnas y vanachlogo+
ed ac eglỽysseu. y adolỽyn y|duỽ a|r seint
drỽy lenỽi yr aỻoryeu o offrymeu a brein+
yaỽl rodyon yr bot yn nerth y amlyn iarỻ.
a gỽedy y amic gỽybot yn hyspys bot y
marchaỽc yn baraỽt y ymlad ac ef. me+
dylyaỽ a|wnaeth. ac ymadraỽd ac ef e|hun
yn|y vedỽl val hynn. Gwae vyvi heb ef
vy mot i yn gyndrỽc cristaỽn a chweny+
chu angheu y marchaỽc gỽirion racko.
os myui a|e ỻad ef. pa wed y gaỻaf ymwe+
let a duỽ dyd braỽt. Os ynteu a|m|ỻad
ynheu. vy angklot a gerda ˄ar|draỽs y|byt yn
dragywyd. A gỽedy y medỽl hỽnnỽ y
dywaỽt ef ỽrth ardric iarỻ yn|y|wed honn.
arglwyd iarỻ heb ef. ys drỽc a gynghor
yỽ y ti chwenych vy angheu yn gymeint
ac yd|wyt; a|th rodi ditheu dy hunan ym
perigyl angheu. namyn os vyn diheuraỽ
i a|wney di val y geỻy ar vym|perigyl i
yn haỽd o|r kelwyd a dywedy di. mi a vydaf
gywir gedymdeith y|ti tra vỽyf vyỽ. Ac
yna y dywaỽt ardric yn ennynnedic o
lit a chyffro ỽrthaỽ ual hynn. Na|th ge ̷+
dymdeithyas na|th garyat ny|s mynnaf.
namyn provi gỽirioned arnat trỽy dỽyn
dy benn y ar dy gorff. ac yna y tyngaỽd
ardric ry weithredu o·honaỽ ef ỽrth verch
y brenhin. ac y tyngaỽd ynteu bot yn ge+
lwyd hynny. A gỽedy hynny ymgyrchu
a|wnaethant yn|ỻidyaỽc ac yn awydus
ar|ymlad ar deu uarch. ac erbynn pryt
anterth o|r dyd. neur|daroed y amic gael
y uudugolyaeth drỽy lad penn ardric.
« p 274r | p 275r » |