LlGC Llsgr. Peniarth 19 – tudalen 34r
Brut y Brenhinoedd
34r
133
varcia. a seisyỻ y|mab. kannyt
oed oet ar y mab namyn seith+
mlỽyd pan vu uarỽ y dat.
Marcia. doeth ethrylithrus oed.
A|gỽedy y marỽ hitheu y bu sei+
syỻ yn vrenhin. A gỽedy seisyỻ
y doeth kynuarch y vab ynteu
yn vrenhin. A gỽedy kynuarch
y doeth dann y vraỽt ynteu
yn vrenhin. Ac yn|ol dann. y doeth
Morud y vab. a|r gỽr hỽnnỽ clot+
uaỽr vu pei nat ymrodei y greu+
londer. Pan littyei nyt arbedei
neb mỽy no|e gilyd. tec oed yn+
teu a hael. ac nyt oed vn dyn
deỽrach noc ef. Ac yn|y amser ef
y doeth brenhin moren y|r gogled
a|ỻu maỽr ganthaỽ. ac y doeth
morud yn|y erbyn. A gỽedy bot
ymlad y·rygthunt. a chaffel o
vorud y vudugolyaeth. erchi
a|wnaeth dỽyn paỽb attaỽ o|e e+
lynyon gỽedy y gilyd y eu ỻad
y gyflenwi y greulonder. a hyt
tra vei ef yn gorfowys yd archei
eu bligaỽ yn vyỽ rac y vronn
a gỽedy eu bligaỽ eu ỻosgi. ac
ar hynny y doeth ryỽ vỽyst+
uil aruthyr y veint y ỽrth vor
Jwerdon. a dechreu ỻygku a
gyfarffei ac ef o dynyon a|oruc.
ac y doeth ynteu e|hun y ym+
lad a|r pryf hỽnnỽ. A gỽedy tre+
ulaỽ y arueu yn ouer. y kyrch+
aỽd yr aniueil ef. a|e lygku
134
megys pysgodyn. Ac o hynny
aỻan ny welet nac efo na|r ani+
ueil. a phum meib a|vu idaỽ
a|r hynaf oed Gorboniaỽn. a
hỽnnỽ a|gymerth ỻywodraeth
y deyrnas. Hỽnnỽ araf a hy+
gar oed. ac ymlaen pob peth
y talei deilỽg anryded y|r dwy+
weu. ac odyna vnyaỽn wirio+
ned y|r bobyl. ac atnewydhau
a|oruc temleu y dwyweu a|r
dinassoed. a gỽneuthur ereiỻ
o newyd. ac yn|y amser ef kym+
meint vu amylder o eur ac
aryant a goludoed ereiỻ. ac
nat oed un o|r ynyssed ereiỻ a
aỻei ym·gyffelybu idi. Ac ym+
plith hynny oỻ y kyuoetho+
gei ynteu yn hael baỽp o|r
tlodyon. mal na bei reit y neb
wneuthur na threis na ỻedrat
na chribdeil ar y gilyd. A gỽe+
dy y varỽ yn ỻundein y drych+
afỽyt arthal y vraỽt yn vren+
hin. ac anhebyc vu arthal y
vraỽt kynnoc ef. y bonhedi+
gyon a ostygei. a|r anlyedogy*+
on a urdei. A gỽedy na aỻas+
sant y dylyedogyon y diodef
uelly. duunaỽ yn|y erbyn a|w+
naethant a|e diwreidyaỽ o ga+
deir y|deyrnas. a dodi elidyr y
vraỽt yn|y le. Ac ym·penn y
pum mlyned gỽedy y vot yn
vrenhin. yd oed diwarnaỽt
« p 33v | p 34v » |